Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/482

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyoddefodd Trefdraeth hefyd ar yr un achlysur. Dechreuodd yr achos Methodistaidd yn y lle hwn yn nhŷ gŵr o'r enw Mr. John Lloyd, yr hwn oedd yn briod ag un o ferched Castell-y-blaidd. Ymhen rhyw gymaint o amser, adeiladwyd yma gapel, ar agoriad yr hwn y pregethodd Mr. Jones, Llangan, a Mr. Nathaniel Rowlands. Testyn y cyntaf oedd, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf;" a thestyn Mr. Rowlands, "Cymerwch phiol newydd a halen," &c., (2 Bren. ii. 20.) Dywedai, er cael phiol newydd, fod yn rhaid cael hen halen; ac er cael capel newydd, mai yr hen efengyl a bregethid ynddo. Daeth yma hefyd ŵr ieuanc i fyw o sir Aberteifi, o'r enw Owen Jones. Ymddengys fod y gŵr hwn wedi cael dysgeidiaeth dda, ac yn bregethwr rhagorol; ond ni fu ei yrfa ef ond ber; bu farw yn 33 ml. oed, tua'r fl. 1777-8. Yr unig goffa am dano ymron y sydd ar gael ydyw, marwnad iddo, o waith un Siôn Evan, Cenarth, yn yr hon y mae y ddwy linell ganlynol:—

Fel Saul wrth draed Gamaliel, fe gafodd uchel ddysg;
Mewn bwriad mynai'i weled, e'n offeiriad yn ei wisg.


Y mae rhai sydd yn awr yn fyw, yn cofio offeiriad yn gweinidogaethu yn llan Trefdraeth o'r enw Mr. Pugh. Cyfrifid ef yn hen ŵr diniwed, siriol a charedig, ond nid hyawdl ei ymadrodd, na helaeth ei ddawn. Yn amser yr hen offeiriad hwn, daeth i fyw i Drefdraeth bregethwr o'r enw David Evans. Yr oedd hwn yn bregethwr da, ac yn gwasanaethu swydd clochydd i'r hen offeiriad. Wrth yr hanesyn a ganlyn y gallem gael drychfeddwl am dalentau y clochydd fel pregethwr. Mewn cyfarfod misol yn Trefin, trefnwyd i David Evan a'r Parch. N. Rowlands i bregethu; ac ar ol yr oedfa, daeth gŵr boneddig call a chrefyddol, i'r hwn yr oedd parch mawr yn ei fro ac yn mysg ei frodyr, o'r enw Mr. Williams, Llandegigau, i mewn, ac a ddywedai yn ngwydd Mr. Rowlands, "Y mae genyf gynygiad i'w osod ger bron, sef bod i'r offeiriad gael ei wneyd yn glochydd, a'r clochydd yn offeiriad." Fe fu David Evans farw tua diwedd y canrif diweddaf. Ar neillduad gweinidogion, pa fodd bynag, disgynodd gradd o ddyryswch a diflaniad ar yr achos yn Nhrefdraeth. Gan fod llan Nefern yn y gymydogaeth, a Mr. Griffiths yn ŵr o ddawn a dylanwad, ciliodd amryw o'r aelodau oddiwrth y Methodistiaid, gan ymlynu wrth beriglor Nefern, a chauwyd y capel hwn eilwaith yn erbyn y pregethwyr, a'r rhai a lynent wrthynt. Nid oes sicrwydd a oedd lease ar y capel hwn yn bod, ond fe'i collwyd ef, am mai eglwyswr oedd perchen y tir y safai y capel arno.

Yr oedd nifer o'r aelodau, er hyn, ynghyd â'r boneddwr anrhydeddus James Bowen, Ysw., Llwyn-y-gwair, yn glynu wrth y pregethwyr. Rhoes y gŵr boneddig hwn ddarn o dir i adeiladu capel arall arno, yn lle yr un a gollasid, yr hwn adeilad a godwyd yn y fl. 1815.

Nid ydym eto wedi cyrhaedd diwedd trychni y neillduad. Mae lle rhwng Trefdraeth ac Abergwaun, o'r enw Dinas, lle yr oedd achos gan y Methodistiaid er yn lled fore. Adeiladwyd yma gapel bychan tua'r fl. 1770, yn amser yr hybarch John Harris o Dreamlod.[1] Tua dechreuad y canrif hwn ail-adeiladwyd

  1. Gwel Hanes Sir Benfro ymlaen.