Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/483

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y capel, gan fod y gynulleidfa wedi lluosogi, ac yn amser y neillduad yr oedd yma eglwys gryn luosog. Gwnaed cais ar ysglyfaethu y capel hwn hefyd, ond fe fethwyd yn yr amcan. Dygwyddodd nad oedd y stabl a adeiladasid at wasanaeth y capel ddim yn sefyll ar yr un tir a'r capel, neu yn perthyn i'r un perchenog. Daeth ymraniad i fysg y gynulleidfa hon, safodd un rhan gyda'r Methodistiaid, a chiliodd nifer cyfartal ymron at yr offeiriaid, ac yn eu mysg yr oedd un pregethwr, yr hwn sydd eto yn fyw ac yn cymeryd y blaen gyda'r blaid hòno. Am y stabl, ni ddaeth hon i feddiant y Methodistiaid byth; ond fe fu y blaid eglwysyddol yn ei defnyddio dros ryw dymhor, i gadw ysgol ac i bregethu, ond y mae hyny bellach wedi darfod er ystalm. Cafwyd gweithred newydd am dir y capel, dros fil ond un o flynyddoedd, ac adeiladwyd capel newydd hardd ar y lle, ac ymddengys golwg siriol a llewyrchus ar yr achos.

Sir Benfro, ni a welwn wrth yr engreifftiau uchod, a ddyoddefodd fwyaf yn y llwybr crybwylledig; eto fe ymddangosodd yr un ysbryd mewn manau eraill. Cawn grybwyll un esampl yn Llanon, sir Aberteifi.

Yr oedd yn yr ardal hon offeiriad o'r enw David Herbert, yr hwn a gyfrifid yn efengylaidd ei ysbryd a'i farn, a'r hwn a gymdeithasai gryn lawer â Methodistiaid y fro. Arferai ddyfod i wrando pregethau i'r capel yn fynych, ac ymunai gyda hwy yn eu cyfarfodydd gweddio, ac yn eu cynulliadau eglwysig. Y Methodistiaid yr un modd a arferent fynychu y llan, i wrando yr offeiriad yn pregethu, ac i gymuno. Yr oedd y llan a'r capel megys yn perthyn i'r un enwad. Cedwid y cyfarfod eglwysig bob wythnos yn y capel, a'r cwrdd o flaen y cymundeb yn y llan; yr un gwŷr fyddent yn blaenori yn y cyfarfodydd oll, a'r un aelodau a'u cyfansoddai oll. Yr oedd yma bregethwr hefyd o'r enw Nathaniel Williams, gŵr a gyfrifid yn barchus o ran ei gymeriad a'i weinidogaeth, yr hwn a ddaethai i'r fro hon trwy briodi gwraig o'r ardal. Parhaodd y wedd unol uchod ar yr achos yn y lle, hyd y flwyddyn 1811; ond wedi i'r neillduad gymeryd lle yn y flwyddyn hòno, cododd cymylau duon iawn, a thywyllodd yr awyr yn fawr, gan arwyddo tymhestl flin. A thymhestl a therfysg blin a fu. Dywedir fod Mr. Herbert eisoes wedi oeri gradd at bobl y capel, am yr aent, yn ystod rhyw ddiwygiadau, i Langeitho, ar Sabbothau cymundeb; ond yn awr fe gryfhaodd yr oerfelgarwch nes myned yn wrthwynebiad cryf. Yr oedd llawer o'r aelodau hefyd, yn anfoddlawn iawn i newid dim ar eu harfer, ac yn eu mysg yr oedd y pregethwr Mr. N. Williams.

Pa fodd bynag, yr oedd yn angenrheidiol, bellach, i bawb benderfynu eu hochr; gan fod y cyfundeb yn gyffredinol wedi penderfynu neillduo rhai o'u pregethwyr i weinyddu y sacramentau; rhaid oedd, tybygid, i'r personau a allent fod yn y lle hwn, neu le arall, naill ai cilio yn llwyr i'r llan, neu syrthio i mewn yn heddychol o leiaf â'r oruchwyliaeth newydd; yn enwedigol gan fod yr oruchwyliaeth hòno yn unol â syniadau cyffredinol y cyfundeb; ond nid oedd llawer o'r bobl yn y lle hwn, yn foddiawn i wneud na'r naill na'r llall. Mynent freintiau Methodistiaid, ac undeb â'r llan hefyd; a chan yr anhawsdra oedd bellach i gael hyny, parent derfysg a chyffro blin yn y gymdeithas eglwysig. Anghymeradwywyd yr ordeiniad gan Mr. Herbert yr offeiriad, a chan