Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/487

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd gyda rhai, ond aflwyddodd gydag amryw. Llwyddodd hefyd gyda rhai, nid o herwydd y mynent o wirfodd ymadael, ond o herwydd eu dirgymhell gan amgylchiadau, ac megys o'u hanfodd. Gwnaed ymosodiad o'r fath a soniwyd ar Mr. Richard, ond efe a wrthododd yr abwyd. Fel hyn yr ysgrifena ei feibion[1]:—"Yn y blynyddau hyn, dygwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol Yr oedd John Jones, Ysw, Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gŵr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneillduaeth yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr eglwys sefydledig Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr eglwys yn sir Aberteifi, at y boneddwr uchod, i ddeisyfarno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard, i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gŵr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones, yn hyderus, i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Derry, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufyddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones, ei fod ef a'r ficer Evans, o Lanbadarn-fawr, wedi bod yn ymddyddan yn ei gylch y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywoliaeth llawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallai obeithio ei mwynhau yn ei sefylifa bresenol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsynio â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, 'Y mae y peth yn anmhosibl, syr' Synodd y gŵr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, 'Paham?' Dywedodd yntau, 'Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynyg hwn, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneiliduo oddiwrth yr eglwys sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn anoddefol i'w deimladau.' Nis gallai y gŵr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, a gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun i wrthod y fath gyfleu" Clywsom am engreifftiau amryw, y gwnaed cais cyffelyb ar bregethwyr eraill, ond gan nad oes gan yr ysgrifenydd hysbysiad manwl ac awdurdodedig am danynt, nid yw yn dewis eu crybwyli; y mae yr un uchod yn ddigon fel esampl. Galarus ydyw meddwl y graddau o ysbryd plaid ac ymddial a ymgymysga a theimladau dynion da, dan ryw amgylchiadau neillduol. Nid oes un amheuaeth am dduwioldeb personol rhai o'r gwŷr a deimlent yn aniddig, ïe, yn ffyrnig at eu hen frodyr, o herwydd y cam a roesent yn yr ymneillduad;

  1. Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion.