Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/488

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid oes genym yn wyneb hyn, ond gofidio wrth graffu ar yr eithafion chwith yr â dynion da iddynt, pan y rhoddont le, megys yn ddiarwybod, i deimladau sectaidd a hunanol; neu pan yr ymollyngont megys yn amryfus, i gymeryd eu llywodraethu gan hoff opiniynau, neu hen arferion.

Blin ydyw gan yr ysgrifenydd ddynoethi gwendidau dynion da a duwiol; a mwy hyfryd o lawer a fyddai dadgan eu rhinweddau, nag ydyw dynoethi eu colliadau. Eto, y mae geirwiredd a ffyddlondeb yn fynych yn galw ar fod y drwg a'r da yn cael ei ddadgan; ac yn enwedig pan y byddo hyny yn debyg o fod yn rhybudd neu yn esampl i genedlaethau eraill. Cyfeirio yr ydwyf yn y sylwadau hyn at draethodyn a ysgrifenwyd ac a gyhoeddwyd, yn 1812, sef y flwyddyn ar ol i'r neillduad uchod gymeryd lle, gan ŵr parchedig o Gymro, ond yn byw er ys blynyddau lawer yn Lloegr, sef y Parch. T. Jones, o Creaton. Gweinidog efengylaidd oedd y gŵr hwn yn eglwys Loegr;—un y mae ei enw yn arogli yn beraidd fel dyn duwiol a gweinidog llafurus. Yr oedd y gŵr parchedig hwn yn teimlo cryn agosrwydd at y Methodistiaid, ac yn dywedyd yn dda am eu llafur a'u defnyddioldeb, tra yr oeddynt, fel y tybid, yn parhau yn nghymuneb yr eglwys wladol; ond trwy y neillduad gorchuddiwyd ei wedd â chwmwl, a gŵg trwm a orweddodd ar ei ael. Gwlychodd ei ysgrifell mewn bustl, ac ysgrifenodd yn yr iaith Saesonaeg draethodyn o'r enw "THE WELSH LOOKING GLASS," sef " Y Gwydr-ddrych Cymreig," i osod allan ryfyg a phechadurusrwydd y cam a gymerwyd.

Yn y traethodyn hwn, y mae llawer o syniadau cywir a chynghorion buddiol, fel y gallesid dysgwyl i ddeillio oddiwrth ysgrifell gweinidog efengylaidd, ac oddiwrth ddyn duwiol; y mae ynddo, hefyd, tybygwyf, amryw o dybiau ffol a haeriadau disail, a hyny mewn ymadroddion chwerwon, fel y gallesid dysgwyl oddiwrth ddyn a fyddai yn berwi o sel o blaid ei sect ei hun, ac a gyfrifai eraill yn sismaticiaid. Y bai mawr a roddir yn erbyn y Methodistiaid ydyw eu gwaith yn ymadael ag eglwys Loegr. Nid yw yr awdwr yn eu cyhuddo o athrawiaeth gau, nac o gynyrchu effeithiau drwg ar y wlad trwy eu pregethau; ond y mae yn addef, mai y Methodistiaid, yn anad neb arall, oedd y bobl a wnaethant fwyaf o ddaioni yn Nghymru. Nid yw yn beio chwaith ar eu dysgyblaeth eglwysig; nac yn gwarafun i lëygion gael pregethu, ond y mae yn ddolurus anghyffredin eu bod wedi cefnu ar ei sect ef ei hun; a hyny yn unig, yn ol a ddeallwyf fi, am ordeinio rhai o'u pregethwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd;—yn hyn yn unig yr oedd eu sism yn gynwysedig. I ddarllenydd cyffredin, neu i ddyn gwylaidd a synwyrol, rhaid yr ymddengys yn chwith iawn, fod yr un bobl, ac yn yr un traethodyn, a hyny gan yr un gŵr dysgedig, yn cael eu gwarthruddo fel sismaticiaid, ac yn cael eu cydnabod fel diwygwyr goreu Cymru! Eto, felly y gwneir. Ac wrth graffu ar yr ysgrif, tueddir fi o leiaf i roddi y flaenoriaeth i'r blaid sismaticaidd, nag i'r un urddedig a rheolaidd, am fy mod yn gweled, ïe, yn ol y darluniad a ddyry yr awdwr, fod y blaid y beia efe gymaint arni, yn rhagori llawer ar y blaid y perthyna ef ei hun iddi.

Mae yr awdwr yn cwyno yn dost yn erbyn dau fath o ddynion;—y naill