Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/493

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y lluoedd wedi gwenu dim ar eu llafur—ei fod wedi rhoddi seliau lawer i'w gweinidogaeth. Diau mai nid yn ol meddwl Mr. Jones y bu hyn! Gweinidogaeth afreolaidd yn fendithiol! Dynion yn byw mewn sarhad o un o osodiadau amlwg teyrnas Crist (yn ol barn yr awdwr), ac ar yr un pryd yn cael eu bendithio mewn modd mor amlwg yn eu heneidiau eu hunain, ac yn eu gweinidogaeth er lleshau eraill! Creded y neba all!

Ymddengys fod yr awdwr o ddifrif wrth ysgrifenu yn y modd y gwnaeth, oblegid fe ddywed, "Nid peth ysgafn yw y ffug-ordeiniad hwn, ac nid yn ysgafn y dylid edrych arno. Rhoed i eglwys Dduw gael ei chyffroi i'w wrthwynebu yn gadarn a ffyddlawn; oblegyd y mae yn un o'r camrau mwyaf eofn a roddwyd yn yr oes i ddadymchwel trefn Duw yn llywodraeth ei eglwys. Ac er i weinidogion crefydd, gwaith y rhai yn arbenig ydyw gwrthdaro heresiau, esgeuluso eu dyledswydd, fe ddaw Duw ei hun yn ddiau i'r maes i warthruddo ei wrthwynebwyr hyn, ac i ddiddymu eu dychymygion beilchion." Ymadroddion cryfion iawn! Ymadroddion cryfach nas gellid eu defnyddio yn erbyn y Methodistiaid pe buasent yn euog o ledaenu Sosiniaeth neu antinomiaeth ar hyd Gymru. Ni allasai Mr. Jones ddadgan teimladau dwysach, pe buasai yn canfod fod ryw sothach ffol o'r fath ag ydyw egwyddorion pabyddiaeth neu Mormoniaeth yn cael eu hau trwy y wlad. A pha beth ydyw swm mawr yr achwyniad yn ein herbyn wedi y cwbl? Yn mha beth y mae ein pechod mawr yn gorwedd? Pa beth a wnaeth y Methodistiaid i gyffroi y fath deimladau, ac i beri defnyddio y fath ymadroddion? Yr ateb ydyw:-Euog ydynt o weini bedydd a swper yr Arglwydd, nid heb ordeiniad, ac nid heb ordeiniad esgob ysgrythyrol, ond heb ordeiniad esgob eglwys Loegr! Y mae yr awdwr yn canmawl y Methodistiaid am fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i bregethu'r efengyl;—am adeiladu tai addoliad, casglu cymdeithasau eglwysig, ac am addysgu y genedl ieuanc. Y mae yn addef fod yr athrawiaeth a bregethir ar y cyfan yn ysgrythyrol, a'r effeithiau a gynyrchwyd yn dda dros ben Ond y pechod anfaddeuol ydyw, anturio i'r offeiriadaeth heb urddiad esgob taleithiol, neu neillduo dynion da eu gair ac uchel eu cymhwysderau i bregethu;—neillduo y cyfryw, meddaf, i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd yn yr eglwysi a blanesid ganddynt. Nid oedd Mr. Jones, tybygid, yn golygu fod Mr. Charles, Mr. Williams, Lledrod, Mr. Lloyd, Bala, a Mr. John Williams, Pant-y-celyn, yn esgobion. Gelwir hwy ganddo yn offeiriaid, ond ni fyn eu bod yn esgobion. A hòna hefyd mai esgobion sydd i ordeinio offeiriaid. Yn y gwrthwyneb yn gwbl yr ymddengys pethau i mi wrth ddarllen y Testament Newydd. Yn gyntaf, nid wyf yn cael fod offeiriaid yn swyddogion yn perthynu ir oruchwyliaeth efengylaidd oll. Y mae son am apostolion, proffwydi, efengylwyr, bugeiliaid, ac athrawon, wedi cael eu rhoddi gan Grist ar ol ei esgyniad i'r nef, i berffeithio y saint, ond nid oes air o son yn eu plith am offeiriaid. Crybwyllir am esgobion a diaconiaid yn perthyn i eglwys Philipi, ond nid oes hanes am un offeiriad. Ymddengys fod y swydd hòno wedi terfynu yn Nghrist, yr Archoffeiriad mawr. Teilwng ydyw sylwi wrth fyned heibio, fod esgobion, nid un ond amryw yn perthyn i un eglwys,