gyniad y goron i Edward VI, newidiodd gwedd grefyddol y wlad. Gorchymynwyd pregethu yn amlach yn mhob llan—annogwyd i weithredoedd ffydd a chariad, a gwaharddwyd pererindodau, ac offrymu i greiriau a delwau, ac arferion pabaidd o'r fath. Ond ar farwolaeth y brenin da hwn, daeth ei chwaer babaidd, Mari, i deyrnasu. Adferwyd yr esgobion Gardiner a Boner i swydd, a dymchwelwyd y wlad yn ol at yr hen arferion a warafunwyd o'r blaen. Ond wedi teyrnasiad gwaedlyd o bum mlynedd, symudwyd hi i ffordd, a daeth ei chwaer Elizabeth i'r orsedd, a chyfarfu crefydd y wlad a chyfnewidiad drachefn. Yr oedd y clerigwyr yn cadw eu bywioliaethau trwy yr holl gyfnewidiadau hyn, ac yn ystumio yn ol natur yr awdurdodau goruchel, heddyw yn adeiladu, ac yfory yn tynu i lawr; â'r un tafod y bendithient Babyddiaeth heddyw, ag a'i melldithient yfory: o'r un ffynnon y deuai dwfr hallt a chroyw. Nid oedd offeiriaid y llanau nemawr well na delwau yn ysgogi wrth ewyllys rhai eraill, a gwirionedd yn syrthio rhyngddynt i'r llawr. Nid oedd pedwar-ar-bymtheg o bob ugain o'r gweision cyflog hyn yn gofalu am ddim ond am elw ei swydd. Aed gwirionedd Duw, ac eneidiau dynion i'r lle yr elent, nid oedd waeth ganddynt hwy; troai pob un at ei elw ei hun o'i gwr.
Yr oedd Elizabeth yn dangos cymaint o ddygasedd at y puritaniaid ar y naill law, ag a ddangosai at yr offeiriaid pabaidd, ar y llaw arall. Ni oddefai gydwybod i Dduw yn y naill, na chydwybod i'r pab yn y lleill. Troai allan o'r eglwysi y rhai a geid yn babaidd eu syniadau, a gwaharddai y rhai efengylaidd i ddod yn eu lle; a bu llawer o'r llanau am faith amser heb neb yn gweini ynddynt; a llenwid hwy yn y diwedd â rhywrai, abl i ddarllen, os byddent foddlon i gydffurfio â'r trefniadau eglwysig.[1] Yr oedd yr holl gyfnewidiadau hyn, a'r holl osodiadau cibddall hyn, yn effeithio yn ddrwg ar y werin, fel y gellid dysgwyl:— edrychai y bobl ar grefydd fel testyn dadl rhwng gwahanol bleidiau, neu yn ddefnydd bywioliaeth i'r offeiriaid. Yr oedd ysbryd priodol yr efengyl wedi ei golli, i raddau mawr, a gwir dduwioldeb yn cael ei anafu. Nid llai niweidiol i achos gwir grefydd a fu helyntion y canrif dylynol. Yr oedd y dynion puraf eu hegwyddorion, a santeiddiaf eu hysbryd, dan orthrymder annyoddefol esgobion uchel-eglwysaidd a hanner babaidd, yn gysylltiedig â thrais yr awdurdodau gwladol. Gyrwyd allan o'r eglwys y dynion goreu a feddai; rhai yn grwydriaid digartref ar hyd ac ar led y deyrnas hon, ac eraill yn alltudion mewn gwledydd estronol.
Gellir canfod pa mor isel oedd ansawdd crefydd yn y dywysogaeth, pan y trowyd allan chwech ugain o offeiriaid o'r llanau plwyfol, oherwydd anwybodaeth, segurdod, ac anfoes. Gwnaed hyn gan y senedd yn amser Cromwell. Gwnaed cyfraith y pryd hyny i ddiwygio crefydd yn Nghymru; a ffrwyth yr ymchwiliad i wedd grefyddol y dywysogaeth oedd, troad yr offeiriaid crybwylledig allan, oherwydd eu llwyr anghymhwysder i'r gwaith. Yr oedd rhyw argoelion, er hyn oll, fod daioni y'nghadw i'n cenedl. Erbyn hyn, yr