Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/630

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Owen Edward, Thomas Foulk, Evan Thomas o'r Ceunant, a Simon Jones, Lôn. Ond nid hir iawn y bu cyfeillion Llanuwchllyn yn sefyll yn wrthwynebol i'r ysgol Sabbothol, a'r moddion a fu yn effeithiol i symud eu rhagfarn oedd y rhai canlynol. Cafwyd cyhoeddiad y Parch. Owen Jones, sir Drefaldwyn, i ddyfod i'r gymydogaeth i gadw cyfarfod ysgol (fel y'i gelwid); sef cyfarfod i egwyddori deiliaid yr ysgol ar gyhoedd. Cyfarfod, meddant, heb ei gyffelyb a fu hwnw. Ymddangosai y fath brydferthwch arno, a disgynai y fath gawodydd bendithiol trwyddo ar y gynulleidfa, ag a bair ei gofio byth gan y sawl oedd ynddo; darfu y rhagfarn at yr ysgol Sabbothol o hyny allan. Nid yn mysg y Methodistiaid yn unig yr oedd y gwrthwynebiad hwn yn ymddangos, ond yn llawn cymaint, os nad yn fwy, yn mysg enwadau eraill hefyd; ac fe fu plwyf Llanuwchllyn, am hir amser ar ol i ragfarn y Methodistiaid ddiflanu, heb un ysgol Sabbothol ynddo, ond yn eu plith hwy. Erbyn hyn y mae gan y Methodistiaid eu hunain bump o ysgolion Sabbothol yn y plwyf.

Mae tref y Bala yn fwy nodedig o herwydd ei chysylltiad â Methodistiaeth, nag un lle arall yn y sir, ie, nag un dref arall yn Ngwynedd. Yma y sefydlodd Methodistiaeth gyntaf yn ngwlad Meirion, ac oddiyma i raddau mawr, y seiniodd gair yr Arglwydd i'r parthau cylchynol. Am lawer o amser nid oedd yr un pregethwr o fewn y sir ond oedd yn, a cherllaw, y Bala. Rhoes ei henafiaeth a'i phregethwyr, fath o sugn ynddi i dynu ati; a pharodd ei sefyllfa fanteisiol yn nghanol Gwynedd, ei bod yn llygedyn cyfleus i gyfarfod ynddo. Daeth ei chyfarfodydd crefyddol i fod yn dra phoblogaidd, ie, yn fwy felly, am lawer o flynyddoedd, nag un cyfarfod a feddai y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru. Chwanegodd ymsefydliad Mr. Charles ynddi at ei henwogrwydd. Yn nghymdeithasfaoedd y Bala y penderfynid materion pwysicaf y cyfundeb yn Ngwynedd, ac i'r cymundeb a gynelid yn y dref hon ar Sabbothau pen mis, y cyrchai lluaws mawr o bobl o wahanol barthau y sir, a rhai o siroedd eraill hefyd. Hyd yn ddiweddar ni ordeiniwyd neb i weinyddu ordinhadau arwyddol yr efengyl, ond yn y gymdeithasfa a gynelid yma. I'r dref hon hefyd, y disgynodd athrofa y cyfundeb perthynol i Wynedd, ac ynddi y mae yn aros hyd heddyw. Fe fu yn y dref hon a'r gymydogaeth lawer o henuriaid enwog; dynion call a gofalus, y rhai trwy y dylanwad a feddiennid ganddynt, a chwanegasant at enwogrwydd y lle; y cyfryw ydoedd Richard Owen, Edward Evans, Gabriel Davies, Robert a William Jones, Rhiwaedog. Cyd-dueddai yr holl amgylchiadau hyn i wneuthur y dref hon yn nodedig yn hanes Methodistiaeth. Ac y mae yn beth syn fod eglwys luosog o rifedi, wedi para dros gynifer o flynyddoedd, nid llawer llai na chan' mlynedd, heb un ymraniad ynddi, nac ychwaith heb un terfysg o bwys ynddi. Y mae yn anrhydedd hefyd i'r dref, fod y fath garedigrwydd wedi cael ei ddangos i gynal cyfarfod mor luosog ag ydoedd y gymdeithasfa flynyddol am gynifer o flynyddoedd. Nid traul bychan, ac nid trafferth bychan a barai hyn i'r trigolion; eto, fe ddygwyd hyn oll yn ewyllysgar dros amser maith iawn, nid llai na 90 o flynyddoedd o'r dechreuad. Nid all yr ysgrifenydd, wrth fyned heibio, lai na dadgan cydnabyddiaeth y cyfundeb i gyfeillion y Bala am yr