Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddadguddio pethau cuddiedig, a gosod dialeddau ar gyrff a meddiannau dynion, trwy eu hoffrymu, megys, i ddiafol. Rhoddid llawer o arian gan yr ehud i'r gweilch cyfrwys—ddrwg hyn, am eu rhad a'u hewyllys da; ac ofnid hwy yn aruthrol gan eraill, yn enwedig os ceid allan eu bod, trwy ryw amgylchiad anffodus, wedi eu rhoddi yn meddiant y dyhiriaid hyny.

Yr oedd gwedd farbaraidd a chreulawn ar lawer o arferion y wlad yn yr amseroedd tywyll hyn. "Mae tywyll-leoedd y ddaear" oll "yn llawn o drigfanau trawsder," neu greulondeb. Mae yr efengyl, pan y delo i wlad, ac yr effeithia ronyn ar galonau dynion, yn peri mwyneidd-dra a hynawsedd. Y mae yn coethi eu teimladau, ac yn eu gwneyd, os nad yn dduwiol, o leiaf yn ddynol. Y mae yn eangu y syniadau, yn tyneru y gydwybod, ac yn cynyrch y fath deimladau ag sydd yn gweddu i ddynoliaeth. Parodd yr efengyl y cyfryw effeithiau ar Gymru. Cyn y diwygiad Methodistaidd, yr oedd gweddillion anwaraidd-dra barbaraidd yr oesoedd tywyll yn aros mewn llawer parth o'r dywysogaeth. Cyfarfyddai y naill blwyf neu gwm, â phlwyf neu gwm arall, i arddangos gorchest mewn codymu, a churo eu gilydd. A hyn a wneid yn fynych mewn modd arswydus. Dybenai eu ffeiriau yn fynych mewn ymladdfeydd cigyddlyd. Ac nid oedd y syniad am iawn drefn yn ddigon cryf yn neb, ymron, i sefyll yn erbyn yr erchylldra. Yr oedd yr ymarferiad penrhydd ag oedd y pryd hwnw, fel y bu yn hir ar ol hyny, ar y diodydd meddwol, yn foddion arbenig i gyffroi nwydau cynhyrfus dynion; ac nid oedd egwyddorion mawrion yr efengyl ddim ar gael i'w hattal na'u lliniaru. Yr oedd llawer o'r chwareuon ag oeddynt yn uchel eu bri, â gwedd greulawn arnynt; megys ymladd ceiliogod, a maeddu teirw â chŵn; ac nid oedd neb ymron yn ystyried ei hun yn rhy foneddig i gynorthwyo yn yr oferedd hyn. Ymgymysgai y boneddig a'r gwreng yn y gwaith gorwael. Ffiaidd iawn a fuasai gan y boneddwr ymgymysgu â'r tlodion mewn tŷ anedd i weddio; ond nid rhy isel oedd ganddo ddod i gyffwrdd â'r werin ar y pit ceiliogod. Mae goleuni gwirionedd yr efengyl, erbyn hyn, trwy drugaredd, ymron wedi ymlid y campau barbaraidd hyn o'r tir; ac oni bae gwŷn rhai o'r boneddigion, ac archwaeth isel dyhiriaid yn mysg y werin, fe syrthiai rhedeg ceffylau i ddiraddiad gwarthus, ac i esgeulusdra llwyr.

Er fod pregethu gan y diwygwyr Methodistaidd wedi dechreu mewn rhyw gyrau o Dde a Gogledd er ys can mlynedd, fel y cawn eto sylwi, a mwy na hyny mewn rhai manau; eto, ni effeithiodd lawer ar arferion cyffredinol y genedl, am ysbaid deugain mlynedd ar ol ei gychwyniad boreaf. Yr oedd y wawr wedi tori, mae'n wir; ond nid oedd y niwl a orchuddiai y wlad eto wedi ei chwalu. Gorweddai cymylau duon o anwybodaeth trwch ar gorff y werin, hyd nes y sefydlwyd yr ysgol Sabbothol. Yr oedd yr hen arferion,—y campau, yr adrodd chwedlau celwyddog, yr ymladd ceiliogod, a'r holl gelfi cysylltiedig, gan hyny, yn aros yn eu grym, hyd o fewn triugain mlynedd yn ol. Nid oedd nifer proffeswyr eto ond ychydig; nid oedd y capelau ond anaml, bychain eu maint, a llwydaidd eu gwedd; a phrin yr adnabyddid y proffeswyr, ond fel gwrthddrychau i'w herlid a'u dirmygu.