Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwygwyr Cymreig ddim oddiwrth y rhai Seisonig, na'r rhai Seisonig ddim oddiwrth y rhai Cymreig; ie, yn wir, ni wyddai y naill Gymro ddim am y Cymro arall. Nid oes cyfrif i roi a hyn, ond fod yr un Ysbryd wedi disgyn arnynt oll. Prawf oedd hyn fod yr un Ysbryd ag a roddwyd ar Wroth, a Cradoc, a Vavasor Powel, eto yn ngweddill gan yr Iesu, a'i fod wedi penderfynu na chai y gelyn ddim gorfoleddu yn dragywydd. Ac nid yn unig yr oeddynt yn cyd-daro o ran amser, ond hefyd o ran grym y weinidogaeth, a natur ei heffeithiau. Yr oeddynt oll wedi eu meddiannu gan yr un eiddigedd tanllyd; aent allan yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd," ac nid oedd dim yn sefyll o'u blaen. Gwnaed hwy yn "ddrych i'r byd, ac i angylion ac i ddynion." Safent ymron yn unig, ac heb eu cyffelyb, yn nghanol cenedlaeth ddrwg a throfaus. Nid oedd neb o'u hamgylch o gyffelyb feddwl. Y llwybr a gerddent oedd unig a disathr. Nid oedd cywair eu hysbrydoedd, na chyfeiriad eu camrau, yn cyd-daro â'r eiddo neb ond â'u gilydd. Os edrychent, ar y naill law, ar y gwŷr llên, sef y clerigwyr o'u hamgylch, ni chaent ond y gwrthwynebiad ffyrnicaf; ac os ar y llaw arall, yr edrychent ar yr ychydig o weinidogion ymneillduedig a allent fod yn eu cyrhaedd, nid oedd yno, ychwaith, nemawr fwy na ffurf. Yr oedd yr Ysbryd a ddisgynodd arnynt, gan hyny, yn Ysbryd dyeithrol i'n byd ni. Y sel a'u hysai hwy oedd gair Duw, fel tân wedi ei gau o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Dygid hwy yn mlaen gan rym aruthrol, yr hwn a'u cymhwysai i gyflawni pethau anhygoel ac anghyffredin. Nerth o'r uchelder oedd wedi eu gwisgo, y fath na ellir ei ddesgrifio, ac annhraethol uwchlaw i neb allu ei ddynwared.

Nid oedd yma un olyniad i'w gilydd. Nid llaw un oedd wedi cyfleu i arall y ddawn hon; ond derbyniai pob un y ddawn o lygad y ffynnon. Bedyddiwyd hwy oll i'r un Ysbryd. Yr oedd yma radd o amrywiaeth yn amgylchiadau cychwynol pob un; eto, bwrid hwy oll i'r un ddelw, a llanwid hwy oll â'r un eiddigedd. Nid oedd amgylchiadau Whitfield a Wesley yn Lloegr yn gyffelyb i'r eiddo eu brodyr yn Nghymru; ac nid oedd amgylchiadau Harris a Rowlands yn unffurf; eto, parodd yr ymweliad a gawsant effeithiau cyffelyb arnynt oll. Y peth hynod a'u nodweddai hwy oedd bywyd. Yr oedd y bobl o'u hamgylch yn gorwedd yn mro a chysgod angau. Nid oedd bywyd yn ngweinidogaeth y rhai a gyfrifid yn athrawon. Ffurf a phroffes difywyd a diserch oedd crefydd yr oes. Ond yn y diwygwyr yr oedd bywyd. Nid llythyren hen oedd yr athrawiaeth yn eu genau hwy; ond ysbryd yn bywhau. Nid proffes o beth, fel gwisg am danynt, oedd ganddynt hwy; ond bywyd ei hun oedd ynddynt. Dichon fod gan ambell un arall iachusrwydd athrawiaeth, eangder gwybodaeth, a threfnusrwydd rheol, eto heb fywyd. Nid oes genym air cymhwysach i osod allan brif nodwedd y diwygwyr, na'r gair BYWYD. Yr oedd crefydd yn fyw yn eu calonau; gweinidogaeth yr efengyl yn fyw yn eu geneuau; a santeiddrwydd yn fyw yn eu rhodiad.