Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canfu Rowlands ei ddull, a deallodd ei ddyben. Effeithiodd ei wedd ar y pregethwr; ond nid fel y dysgwyliasai y boneddwr. Aeth Rowlands rhagddo, heb gymeryd arno ei fod yn sylwi ar y gŵr mawr, a hyny gyda'r rhwyddineb mwyaf; ac yn mhen ychydig, dechreuodd ei eiriau grymus effeithio ar y dorf: bytheiriai yntau allan y fath fygythion taranllyd, mewn modd mor dreiddgar a nerthol, nes oedd braw a dychryn arswydlawn yn meddiannu ei wrandawyr. Yr oedd mynyddoedd megys yn toddi o'i flaen. Yr oedd dewrder a chaledwch pechaduriaid yn diflanu; yr oedd ei ymadroddion yn brathu fel cleddyf, ac yn ysu fel tân. Ystyriaeth a ddeffroid yn y fynwes; dychrynfeydd a gynyrchid yn y gydwybod; syrthiai rhagfarn i lawr yn ddinerth; a llewygai ysgafnder ei hunan gan fraw aruthrol. Ac nid eithriad oedd y gŵr boneddig ei hun. Syrthiodd ei wynebpryd, crynodd ei aelodau, a llifai ei ddagrau; ni allai sefyll ar y fainc mwyach. Disgynodd, gan sychu ei ddagrau. Eisteddodd, gan edrych tua'r ddaear, a'i ddagrau yn gwlychu'r llawr. Wele'r graig adamantaidd yn llyn dwfr! y llew ffyrnig yn oen diniwed! Wele'r gŵr boneddig ffroen-uchel, yn bechadur pen-isel; y creadur balch, caled, a rhyfygus, wedi ei droi, trwy swynyddiaeth ardderchog geiriau Duw, yn ddyn drylliedig o galon, a chystuddiedig o ysbryd!

Ar ol darfod y bregeth, aeth y boneddwr at Rowlands, mewn agwedd grynedig iawn: addefodd wrtho yn ddigêl ei fai, a gofynodd ei faddeuant. Dygodd ef yn groesawgar i'w dŷ; ac yno y lletyodd Rowlands y noson hòno. Dechreuodd cyfeillach rhyngddynt, y pryd hwn, ag a barhaodd dros oes. O hyny allan, deuai y gŵr boneddig yn gyson i Langeitho i wrando yr offeiriad crac; a dangosai, bellach, yn ei ymarweddiad, ei fod yn berchen gwir dduwioldeb.

Yr hanes uchod a ddyry i ni olwg ar y modd y temtiwyd Rowlands i fyned gyntaf allan o'i blwyfau priodol; a gwelsom hefyd yr arwyddion amlwg a gawsai, mai boddhaol ydoedd y tro gan Dduw: ac nid wyf yn deall y bu yn destyn edifeirwch iddo yntau chwaith. Nid ein ffyrdd na'n meddyliau ni ydynt yr eiddo Duw. Bwriadai yr apostolion, a Phedr yn enwedig, i ymgadw yn unig at yr enwaediad, ac ni fynai, er dim, nesâu at wŷr dienwaededig; ond Duw a fwriadodd yn amgen, a gwnaed Pedr yn ufydd. Nid oes amheuaeth na fwriadodd Paul gyfyngu ei lafur, am dymhor beth bynag, i Asia Leiaf; ond gŵr o Macedonia a ymddangosodd iddo mewn gweledigaeth, yn dywedyd, "Deuwch trosodd, a chynorthwywch ni." Cydsyniodd yntau â'r cais hwn, gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd ef i efengylu i'r Groegiaid yn Macedonia. Am ddim a'r a wyddom ni, mai llafurio yn egniol, o fewn rhyw derfynau gosodedig, a wnaethai Rowlands dros ei oes, oni bae i ryw awgrymiadau ymddangos yn rhagluniaeth Duw, yn argoeli yn lled ddiymwad iddo, mai ei ddyledswydd ydoedd pregethu yr efengyl mewn manau eraill hefyd. Gwnaethai ddaioni mawr, diamheu genym, ped arosasai yn y fan lle yr oedd eisoes (oddieithr iddo, trwy hyny, ddiffodd Ysbryd Duw, a