Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben; oeddynt fel baich trwm rhy drwm iddo ei ddwyn." Bu am fis o amser cyn cael gwaredigaeth ac esmwythad i'w enaid archolledig. O hyny allan, bu yn fendithiol iawn i laweroedd yn Nghymru, ac yn Llundain hefyd. Hysbysir i ni mewn cyhoeddiad Saesonaeg[1] arall, fod Mr. Howel Davies yn mysg y rhai a gyfarfyddent â'r Iarlles Huntington yn Bristol, ar ei thaith i Gymru yn y fl. 1748. Ei gymdeithion ar yr achlysur oeddynt y Peirch. Daniel Rowlands, Griffith Jones, a Mr. Howel Harris. Yr oedd dwy ferch yr Iarlles gyda hi, a dwy foneddiges eraill, sef Lady Anne, a Lady Francis Hastings. Dros ysbaid pymtheg niwrnod olynol, pregethai dau o'r gweinidogion ag oedd yn ei chanlyn bob dydd, yn y trefydd a'r pentrefydd yr aent trwyddynt. Nid oes hysbysiad genyf trwy ba ranau o'r wlad y bu eu llwybr; yn unig dywedir iddynt ymweled â Llangeitho, ac oddiyno drachefn i Drefeca: ond pa lwybr a gymerwyd o Fristol i Langeitho, sydd anhysbys. Dywed Lady Francis, wrth ysgrifenu yr hanes, "Yr oedd yn dra amlwg fod dylanwad dwyfol Ysbryd Duw gyda'r gair, a chwanegwyd llawer at bobl yr Arglwydd." Sonir am bregeth hynod i Mr. Griffith Jones ar y rhan hyny o'r 40ed o Esay, "Pa beth a waeddaf?" Dywedir i ras a gallu Duw gael eu hamlygu mewn modd rhyfeddol iawn ar y gynulleidfa, ac i laweroedd dori allan i lefain mewn ing meddwl, dan argyhoeddiadau o'u pechod a'u colledigaeth. Sonia y foneddiges am bregeth ryfedd arall o eiddo Mr. Rowlands, mewn pentref bychan (ni roddir enw arno) yn sir Gaerfyrddin, yr hon a fendithiwyd mewn modd hynod. "Y mae yn beth hynod," meddai Lady Francis, "mai yn gyfatebol i'r modd y darostyngid pechaduriaid dan deimlad trallodus o'u heuogrwydd, y derbyniai pobl Dduw eu cysur a'u dyddanwch. Tra yr oeddynt hwy yn mawrygu eu Duw, ac yn llawenychu yn Nuw eu Hiachawdwr, yr hwn a wnaethai iddynt bethau mawrion, yr oedd y lleill mewn ing dirfawr yn gwaeddi allan, "Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?" Ar ddychweliad yr Iarlles Huntington i Loegr, aeth Mr. Howel Harris, a'r Parch. Howel Davies, gyda hi.

Rhoddwyd i'r gŵr duwiol hwn, tua blynyddoedd diweddaf ei oes, raddau anghyffredin o gysuron yr efengyl. Yr oedd wedi ymgynefino ag angau a byd arall er ys amser maith; a llenwid ei ysbryd â gorfoledd, yn y gobaith am fywyd ac anllygredigaeth. Myfyriai yn hyfryd ar y mynyd y rhyddheid ef oddiwrth lyffetheiriau y cnawd, ac y dyosgid ef o bob gwisg ddaearol;—y mynyd y gwisgid ef â'r tŷ sydd o'r nef. Fel hyn, wedi oes o lafur ffyddlawn dros ei Arglwydd, ac o ddefnyddioldeb i'w genedlaeth, efe a hunodd yn yr Iesu —tua diwedd Mawrth, yn y fl. 1770. Bu farw yn yr un flwyddyn a Mr. Whitfield, a chladdwyd ef yn eglwys Prengast, Hwlffordd.

III. PETER WILLIAMS.—Ganwyd y gŵr hwn Ionawr 7ed, 1722, o rieni cyfrifol, yn sir Gaerfyrddin. Ar enedigaeth eu mab hwn, yr oeddynt yn byw ar derfyn y ddau blwyf, Llacharn a Llansadwrnen, gerllaw Caerfyrddin. Arferai ei fam, yr hon a hoffai wrando yr efengyl, ei gymeryd, pan yn bump

  1. "Life and Times of the Countess of Huntington," tudal. 84.