Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH I'R DRYDEDD GYFROL,

WELE y drydedd Gyfrol, yr olaf o'r gwaith hwn, bellach, ar ben. Nid wyf yn dyweyd hyn, am nad oes defnyddiau i ymhelaethu, ond am fod y terfynau a osodais i mi fy hun wedi eu cyrhaedd, ac nid dewisol genyf oedd eu hestyn yn mhellach. Teimla yr Awdwr yn ddiolchgar am i "Dad y Trugareddau" estyn iddo fywyd ac iechyd i'w gwblhau. Afreidiol ydyw dyweyd ddarfod iddo gael llafur dirfawr; ond teg ydyw ychwanegu, ddarfod iddo gael gradd o ddifyrwch hefyd. A phe gallai hyderu fod eraill, wrth ddarllen y gwaith, wedi cael cymaint o foddhad ag a gafodd yr Awdwr wrth ei grynhoi, byddai yn ychwanegiad mawr at ei lawenydd. Pa fodd bynag, wele y gwaith ar ben. Os blin fu ei dderbyn a'i ddarllen gan neb, caiff ymwared bellach o'r blinder hwnw; ac o llecha neb y syniad fod y gwaith wedi cael ei chwyddo i faintioli llawer mwy nag ydoedd raid, gobeithiwyf y bydd ei derfyniad yn foddion i'w boddhau hwythau.

Wrth adolygu y gwaith yr wyf yn cryfhau yn y dyb, mai gresyn a fuasai i Fethodistiaeth Cymru fod heb "Lyfr eu Hactau." Trueni a fuasai i ymweliad mor nerthol,—i amgylchiadau mor ddyddorol,—i enwau mor beraroglaidd,—ac i orchestion mor hynod, syrthio i ebrgofiant, o ddiffyg eu croniclo. Y gresyni yw na fuasai rhyw un er ys ugain mlynedd neu fwy yn ol, wedi ymroddi at y gorchwyl o grynhoi yr hanesion at eu gilydd, tra nad oedd henaint wedi anmharu eneidiau rhai, na'r bedd wedi cuddio cyrff y lleill. Sicr ydyw fod eto helaethrwydd o hanesion dyddorol cysylltiedig â Methodistiaeth ar gael, pe yr ymroddai rhyw un craff ei gof, a gwisgi ei ysgrifell i'w casglu.