Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anmhosibl, tybygwyf, ydyw i neb ddarllen yr hanesion, cynwysedig yn y Cyfrolau hyn, heb deimlo ar ei galon ddyweyd fel Balaam gynt, "Beth a wnaeth Duw!" Nid yw y mawl yn gweddu i neb ond i'r Arglwydd. Nid i drefn dda, neu i gynllun doeth; oblegid fe gychwynodd Methodistiaeth heb un cynllun. Nid i enwad crefyddol, nac i genadaeth perthynol iddo, y mae y clod am ei ddwyn yn mlaen, gan na chafodd Methodistiaeth swcr oddiwrth yr un enwad, ond gwrthwynebiad, i raddau mwy neu lai, oddiwrth bob enwad. Nid i ddysgeidiaeth chwaith y mae yr enw am y dylanwad a gafodd y diwygiad ar y genedl; oblegid nid oes hanes am un cyfundeb yn meddu llai o ddysgeidiaeth na'r un Methodistaidd o fewn y byd; yn enwedigol dros ran fawr o'i hanfodiad. Nid i gyfoeth chwaith y y mae yr anrhydedd;—mewn gair nid i neb, nac i ddim, ond i Dduw. Rhoddwyd trysor yr efengyl mewn llestri pridd, diaddurn a digyfrif, "fel y byddai godidogrwydd y gallu o Dduw ac nid o honom ni."

Gogoniant yr hen Fethodistiaid oedd eu cariad at y Cyfryngwr, a'u hawydd cryf ac unplyg i ddwyn eneidiau ato. Gogoniant eu gweinidogaeth oedd ei symlrwydd a'i difrifwch. Gwelwyd yn eu hanes "EGLWYS A GWEINIDOGAETH O DDIFRIF;" a choronwyd y difrifwch hwnw â llwyddiant arbenig. Tra y cedwir y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu, yn yr athrawiaeth;—tra yr amcenir yn ddiffuant at burdeb mewn dysgyblaeth;— tra y bydd cwlwm cariad yn rhwymyn cymdeithas;—ac Ysbryd yr Arglwydd yn fywyd a grym i bob gweinyddiad, fe gedwir y cyfundeb yn hardd ei gymeriad, yn rymus ei ddylanwad, ac yn helaeth ei ddefnyddioldeb, o hyn allan.

Nid oes genyf, y drydedd waith hon, ond cyfarch y darllenydd mewn ffordd o ganu yn iach iddo; a dymuno ar iddo ef, a'r ysgrifenydd ynghyd, gyfranogi o ysbryd y tadau; a "bod yn ddilynwyr i'r rhai sydd trwy ffydd ac amynedd, bellach, yn etifeddu yr addewidion."

JOHN HUGHES
MOUNT STREET, LIVERPOOL,
Mehefin 30, 1856.