Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'r ddau eraill; a'r hwn, ar gyfrif ei gymhwysderau i fod yn ddefnyddiol, a ddewiswyd yn gynorthwywr i Howel Harris, ac a alwyd i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol, ac i ymgysegru yn hollol i wasanaethu yr eglwysi mewn gwahanol barthau o Gymru, ac yn enwedig mewn rhanau o sir Fynwy, Morganwg, a Chaerfyrddin. Yr oedd hyn yn y fl. 1744. Nid oes genym nemawr hanes cysson am y gŵr hwn. Cyfarfyddwn yn fynych a'i enw, mewn cysylltiad â Methodistiaeth yn ei ysgogiadau cyntefig; a chawn ei fod ef yn un o'r pedwar a anfonwyd i'r Gogledd,[1] ac am yr hwn y dywedai John Evans o'r Bala, "Yr oedd John Belcher yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da."

Y mae genym adroddiadau amryw, o waith y ddau arolygwr crybwylledig, John Richard a Thomas William, y rhai a gyflwynwyd i'r Gymdeithasfa, yn y blynyddoedd 1712—45, yn rhoddi i ni olygiad byr ar ansawdd y gwaith yn y cylchoedd priodol iddynt. Cawn roddi dyfynion bychain o'r adroddiadau hyny, ar fyr, o flaen y darllenydd.

Mewn cymdeithasfa a gynhaliwyd yn Glan-yr-afonddu, sir Gaerfyrddin, penderfynwyd "fod gofal sir Forganwg hyd Lantrisaint ar y brawd Thomas William"—a

Bod gofal y gweddill o sir Forganwg, a rhan o sir Gaerfyrddin hyd yr afon Dywi a Llanelli, ar y brawd John Richard." Ac mewn cyfarfod arall a gynhaliwyd yn Llandremôr, plwyf Llandeilo-fach, Mai 19eg, 1743, penderfynwyd:

"Fod John Richards i arolygu y cymdeithasau yn y manau canlynol, Castellnedd, Creunant, Palleg, Cromaman, Llanon, Cas'llychwr, Llandafen, Llandeilo—fach, a Llansamlet."

Yn mis Medi, yr un flwyddyn, dyry Thomas William adroddiad cyffredinol am y cymdeithasau a gynhelid yn y Groeswen, Dinas—Powys, Llanedeyrn, Newton Nottage, St. Nicholas, Aberddaw, Byrthyn, Llanharri, Llanilid, Cynfyg, Hafod, Glynogar, Llantrisaint, a Pentyrch, gan ddyweyd, "Fe welodd yr Arglwydd yn dda gadw y cymdeithasau crybwylledig yn ddiachwyn arnynt, o ran eu hymddygiad allanol, fel na fu gwaradwyddo ffyrdd ein hoff Arglwydd o'u hachos hwy, oddigerth fod un yn y Groeswen, ac un yn Llantrisaint, yn gogwyddo gradd at gydymffurfiad â'r byd. Ymddengys fod adfywiad siriol yn mysg yr aelodau yn y Groeswen, ac Aberddaw, lle y mae ychydig nifer yn mwynhau rhyddid; a lle y mae y gweddill yn credu ei fod yn gyrhaeddadwy, ac yn cyrchu tuag ato. Mae drysau newyddion yn ymagor i'r efengyl, ac y mae newyn ar y bobl am y gair, yr hwn sydd yn rhedeg ac yn cael gogonedd, mewn amrywiol barthau o'r wlad. Mae pump o dan argyhoeddiadau dyfnion yn y Groeswen, ac un yn Aberddaw. Cyffelyb ydynt yn y cymdeithasau ereill i'r hyn oeddynt o'r blaen o ran rhif; o ran cynydd, nid ydynt ond babanod, eto y maent yn cynyddu."

  1. Gwel, Cyf. I, tudal. 487.