RHYTHIN A LLANHARRI. "Nid oes yma ond 4 o aelodau, a chyfarfyddant yn nghyd o'r ddau le.”
NOTTAGE. "Ni chefais gyfleusdra i wybod ansawdd y lle hwn, trwy fy lluddias gan amgylchiadau pwysig i ymweled â'r lle."
Y cyfryw ydyw swm adroddiad Thomas William o'r cymdeithasau bychain a arolygid ganddo; a bychan iawn, ni a welwn, oedd amryw o honynt. Yr oedd llawer o'r aelodau yn ieuainc mewn oedran, a phawb yn ieuainc mewn profiad. Nid oedd eu gwybodaeth ar y goreu ond bas, a'u teimladau a'u nwydau yn fynych yn gyffrous, fel nad yw yn syn genym ddarllen eu bod yn lled anwadal yn eu proffes, a sigledig yn eu syniadau. Cyffelyb hefyd oedd gwedd y cymdeithasau yn ngogledd-orllewin y sir, dan olygiad John Richard; sef cymdeithasau Castellnedd, Creunant, Hafod, Llansamlet, Cnap-llwyd, Corseinion. Gellir meddwl mae cymdeithas Corseinion, neu y Goppa-fach oedd yr un fwyaf blodeuog yn y dosbarth hwn. Yr oedd yn hon 55 o aelodau yn fl. 1743. Yn Llansamlet yr oedd 20. Yn yr Hafod yr oedd 15. Yn Creunant yr oedd 12. Nid yw nifer Castellnedd i lawr.
Mae mynych grybwylliad yn cael ei wneuthur yn "Nghofnodau Trefecca" am le a elwir Watford neu Waterford; lle y cynelid llawer o'r cymdeithasfaoedd boreol; ïe, yn wir, y lle y cynaliwyd y gymdeithasfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid.
Dysgrifir y lle hwn i ni gan un a'i hadwaen fel hyn,—"Watford sydd balas, neu hen ffermdy mawr, cyfrifol yr olwg, yn sefyll ar lethr mynydd Caerphili, ac o fewn milldir i'r dref hono, yn mhlwyf Eglwys-ilian, sir Forganwg, ond ar derfyn sir Fynwy. Mae y capel eglwysyddol St. Martin, yr hwn a elwir yn gyffredin capel Caerphili, ar gwr tir Watford."
O faenordy Watford y priododd George Whitfield un Mrs. James o Abergafenni, yn y capel uchod. Mae cofnodiad am hyny yn llyfr eglwys y plwyf, sef Eglwys-ilian: fel hyn, "George Whitfield and Elizabeth James, married, November 14th, 1741. John Smith, vicar."
"Yn ymyl tŷ Watford y mae capel Presbyteraidd hen iawn; yn yr hwn yr arferai y diwygwyr Methodistaidd bregethu, gan y coleddid hwy gan Mr. a Mrs. Price, y rhai oeddynt yn preswylio y palasdŷ y pryd hwnw. Am y Mrs. Price hon y canodd Williams, Pant y celyn, alareb ragorol ar ol ei marw. Yr wyf yn tueddu i feddwl nad oedd yr un gweinidog sefydlog yn yr hen gapel y pryd hwnw; a chan fod Mr. Price yn llochi y Methodistiaid, efe a agorodd ei dŷ ei hun i'w croesawu, ac a gafodd ganiatâd iddynt ddefnyddio y capel, o leiaf yn achlysurol i gynal cyfarfodydd. Wedi marw y boneddwr Mr. Price, daeth eraill i breswylio i Watford, a gweinidog Presbyteraidd i'r capel a chan ei fod yn gogwyddo at syniadau a fernid yn gyfeiliornus, ciliodd y Methodistiaid a'r Annibynwyr, ac adeiladasant gapel rhyngddynt, ar lethr arall gyferbyn, yr hwn a elwir capel y Groeswen. Ymhen ychydig amser collodd y Methodistiaid y capel hwn hefyd, trwy i'r rhan Annibynol o'r gynulleidfa, ddewis gweinidog sefydlog, a thrwy hyny ymwrthod â phregeth-