merch iddo. Derbyniwyd pregethu, a chynaliwyd cyfarfodydd eglwysig, yn y le hwn am flynyddau. Gŵr o'r fro hon oedd yr enwog Mr. Griffith Morgan, Glynhir. Dygwyd dychweliad y gŵr hwn at grefydd mewn modd tra hynod. Sylwai fod rhai o hen bobl ei ardal yn arfer myned ar ryw Sabbothau penodol i gapel Llanlluan,[1] sir Gaerfyrddin, i wrando. Enynodd chwilfrydedd ynddo, ac ymofynai ynddo ei hun i ba ddybenion yr oeddynt yn cyrchu yno; ac, o'r diwedd, penderfynodd fyned yno ei hunan. Cymerodd ei geffyl dano ac i ffordd âg ef i Lanlluan. Ar Sabbothau cymundeb yr oedd cyrchu mawr i'r lle o'r holl wlad o amgylch, nes chwyddo y gynulleidfa i nifer mawr. Dygwyddodd, y tro hwn, fod y Parch. D. Rowlands, Llangeitho, i bregethu yno. Aeth Grffith Morgan i mewn i'r capel, ac wedi i ryw un orphen gweddio, ar ddechreu yr oedfa, gwelai Mr. Rowlands yn codi i fyny yn y pwlpud. Parodd yr olwg ar y pregethwr effaith arno yn y fan, a pharotodd ei feddwl i wrando. Y testyn, oedd, Mat. iii. 7, 8. "O genedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhag rybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd? Dygwch gan hyny ffrwythau addas i edifeirwch." Cafodd y bregeth effaith anarferol ar ei feddwl. Darostyngwyd ei enaid i ufudd-dod Crist. Gogwyddodd ei ysgwydd i'r iau, a gweithiodd yn effro ac egniol yn ngwinllan ei Arglwydd o hyny hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd cael gŵr o fath Mr. Morgan yn ennill mawr. Yr oedd Methodistiaeth ar y pryd yn eiddil, y proffeswyr gan amlaf yn dlodion, a diamddiffyn; yr oedd y gwaith a fwrid arnynt, a'r gwrthwynebiad a osodid ar eu ffordd yn fawr iawn. Yr oedd cael gŵr o wybodaeth a dylanwad Mr. Morgan, gan hyny, o wasanaeth tra mawr i'r achos. Nid aml y bu mwy o eisiau y fath un, ac nid yn fynych y bu offeryn cymhwysach i'r gwaith oedd iddo.
Yn y blynyddau canlynol, gwelwyd angen am le mwy sefydlog a pharchus i addoli. Yr oedd yr achos wedi bod 30 mlynedd mewn tai anedd, ac wedi profi llawer o gyfnewidiadau; ond yr oedd, bellach, wedi ymwreiddio yn y gymydogaeth. Yr oedd y rhagfarn cyntefig yn dechreu syrthio, a'r bobl yn ymsefydlu i wrando yr efengyl; arwyddion fod yr amser wedi dyfod i gael addoldy i ymgynull ynddo. Cafwyd tir i adeiladu arno gan Mr. Arthur Davies, Llanymddyfri, yn agos i'r fan a elwir y Goppa-fach. Rhoddodd rwym-ysgrif ar y tir, am ddau swllt yn y flwyddyn, dyddiedig, Ebrill 26, 1775. Y mae yr hen gapel wedi rhoi lle i gapel arall hardd a chyfleus.
Mae pump o eglwysi Methodistaidd wedi tarddu o'r eglwys hon, sef, Llanelli, Llanedi, a'r Bettws, yn sir Gaerfyrddin; a Chas-llwchwr a Llangyfelach, yn sir Forganwg. Yr ydym eisoes wedi rhoddi hanes byr am rai o'r lleoedd hyn dan sir Gaerfyrddin am y ddau le diweddaf a enwyd ni ddaeth, dim defnyddiau i law.
- ↑ Gwel hanes y capel hwn yn Hanes sir Gaerfyddin," Cyf. II., tuda 442 CYFROL III.