Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWELLIANT GWALLAU.

CYFROL II., Tudal. 17, dywedir ddarfod rhoddi yr oedfa wythnosol, a gynelid am 12 o'r gloch ddydd Mercher, yn Llangeitho heibio, o herwydd yr achles a roddid i lygredigaeth,—dylasid dywedyd, mai yr oedfa prydnawn Sadwrn, o flaen Sul y cymundeb, a roddwyd heibio, ac nid yr oedfa wythnosol ddydd Mercher; mae hon eto yn parhau, a mwy na hyn, y mae yn parhau heb ei llygredigaeth gynt.

Cyf. II., Tudal. 267, dywedir mai brodor o Fon oedd John Jones, Edeyrn,—dylasai fod o Arfon.

Cyf II., Tudal. 501, dywedir fod y Parch. J. Elias wedi priodi Miss Pritchard—yn lle Miss Broadhead.

Cyf. II., Tudal. 580, dywedir i Risiart Morris farw yn y fl. 1824, yn 75 mlwydd oed; dylasai fod yn y fl. 1814, yn 65 mlwydd oed.

Cyf. II, Tudal. 585—yn lle fod William Lewis wedi ei gladdu yn mynwent Llanfairlwyfo, dylasai fod Llanbedr-goch, lle y gwelir, medd fy ngohebydd, ei fedd hyd heddyw.

Cyf. III., Tudal. 335, yn lle 1790, darllen 1760.

Cyf. III, Tudal. 193, yn y paragraph olaf, y mae y naill linell gwedi ei dodi o flaen y llall, fel hyn

"Cododd amryw bregethwyr o'r ganghen hon o eglwys Crist; sef, y Parchn. William Jones o Ruddlan; Willam Hughes o Lanfair—talhaiarn; yn nghyd Richard Williams, Trefriw; o ba rai, y mae y cyntaf a'r diweddaf wedi huno. a'r brodyr canlynol, Griffith Williams, Mon; Owen Roberts, Ffestiniog;

Dylasai fod—

Cododd amryw bregethwyr o'r gangen hon o eglwys Crist; sef, y Parchn. William Jones. Rhuddlan; a William Hughes, Llanfair—talhaiarn; ynghyda'r brodyr canlynol Griffith Williams, Mon ; Owen Roberts, Ffestiniog; a Richard Williams, Trefriw; o ba rai y mae y cyntaf wedi huno, a thri wedi symud i ardaloedd eraill.

Nid oes amheuaeth nad oes lluaws o wallau yn y gwaith heblaw y rhai uchod; rhai yn wallau yr argraff-wasg wedi dianc heb eu gwella; eraill heb fod felly, wedi codi, weithiau, oddiar aneglurdeb côf y gohebydd, neu o ryw ffynnonell arall. Gobeithir, er hyny, nad oes llawer o wallau pwysig, nac un gwall bwriadol; ond y cyfryw y gall y darllenydd ei ganfod wrth gydmharu y naill ran a'r llall, a'i gywiro iddo ei hun.