Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd i ddechreu ar ei wasanaeth yn Queen Camel hyd Wyl Mihangel, felly derbyniodd wahoddiad Mr. Simon Lloyd, y daethai i gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch ag ef yn Rhydychain, i ddyfod i ymweled a'r Bala yn nghanol haf 1778. Dyma y tro cyntaf iddo weled Llyn Tegid a thref y Bala. Bu yn y Bala am tua phum wythnos, gan wneyd brysdeithiau gyda'i gyfaill i amryw fanau yn y Gogledd yn ystod yr amser. A'r adeg hon y daeth i gydnabyddiaeth a Miss Sarah Jones, llysferch Mr. Thomas Foulkes. Aeth y ddau yn hoff o'u gilydd ar unwaith, ac ar ol rhai blynyddoedd terfynodd yr adnabyddiaeth a'r gyfeillach mewn glân briodas. Aeth ef a'i gyfaill, Mr. Lloyd, i'r Deheudir, yr haf hwn i ymweled a chartref Mr. Charles. Gwrandawodd ddwy bregeth gan Mr. Rowlands yn Llangeitho, ar y ffordd, er eu cysur anrhaethol, a chyrhaeddasant Pantdwfn ar y 13eg o Awst, a'r Sul canlynol, trefnwyd i Mr Charles bregethu yn Llanfihangel, eglwys blwyfol ei dad. Yn ol pob tebyg dyma ei bregeth gyntaf. Cafodd gymhorth neillduol i lefaru. Yn mysg ei wrandawyr yr oedd yr hen bererin Rhys Hugh. Parodd lawenydd mawr i'w galon gael gweled unwaith yn chwaneg yr hen gyfaill tra anwyl hwn. Medrasai agos wylo o lawenydd. Y cyfarfod olaf a gawsant yn y byd hwn ydoedd. Yn mhen y mis ar ol hyn, yr oedd Rhys Hugh wedi dianc i'r nef.

Ni fu Mr. Charles yn hir yn gwasanaethu yn Queen Camel. Yn gynar yn 1780, teimlai nad oedd dim i'w wneyd ond rhoddi y lle oedd ganddo yma i fyny. Bu wedi hyny am bedair blynedd yn gurad i un Mr. Lucas yn Milbourn Port, plwyf arall, ni a dybiwn, yn Ngwlad yr Haf.[1] Yr oedd Mr. Lucas yn glerigwr efengylaidd, ond yr offeiriaid cylchynol yn rhai tra gwahanol; ac amlwg yw, oddiwrth ddydd-lyfr Mr. Charles ei fod ef ei hun o ran ei ysbryd yn cael mwynhad uchel o bethau crefydd. Ond er fod ei amgylchiadau yn ddigon cysurus, yr oedd ei galon yn Nghymru mewn mwy nag un ystyr. Teimlai awydd angerddol am gysegru ei alluoedd i wasan- aeth ei genedl ei hun; a theimlai hefyd awydd priodi Miss Jones, yr hon oedd wedi enill ei serch bellach er ys pum' mlynedd. Gwnaeth ymdrech deg i gael curadiaeth yn Nghymru, ond ar ol aml i siomedigaeth yn ei ymgeisiau, y mae ei amynedd o'r diwedd yn pallu, ac y mae yn penderfynu dychwelyd i Gymru heb olwg am un guraddaeth yma. Y mae yn ymadael o Milbourn Port, Meh. 23, 1783, ac ar yr 20fed o Awst yn priodi Miss Sarah Jones, ac yn ymsefydlu yn

  1. Dywedir yn Ysgrif Dr. Edwards iddo lafurio pum' mlynedd yn Halifax ar ol graddio yn B.A. yn 1779, a chael ei gyflawn urddo yn 1780 Ond nid oes Milbourn Port i'w weled yn y Clergy List am un lle yn agos i Halifax. Ceir lle o'r enw yn Ngwlad yr Hat. Ni ddywedir yn y Tadau Methodistaidd yn mha Esgobaeth yr oedd Milbourn Port.