Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

METHODISTIAETH MON

—————————————

PENNOD I.

SEFYLLFA FOESOL A CHREFYDDOL MON CYN SEFYDLIAD METHODISTIAETH.

YMAE yn ammhossibl ysgrifenu hanes Methodistiaeth Môn heb gymmeryd i sylw sefyllfa foesolachrefyddol yr ynys pan y cymmerodd y diwygiad le. Nid oes genym un amcan i ddolurio meddyliau Eglwyswyr cydwybodol yr oes hon, trwy gyfeirio at ddiffygion a llygredigaethau yr Eglwys Sefydledig yn Môn yn y ganrif ddiweddaf; ac yr ydym yn credu fod y dynion goreu yn yr Eglwys, y dyddiau hyn, yn anghymmeradwyo sefyllfa ac agwedd foesol a chrefyddol trigolion Môn y pryd hwnw gymmaint ag y mae yr un Methodist o fewn yr ynys yn gwneyd. Byddai yr Iuddewon, mewn adegau o ddiwygiad crefyddol, yn cyffesu eu pechodau eu hunain, a'u tadau, ger bron Duw, gan ddywedyd, ' A ninnau a wnaethom yn annuwiol. Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid , a'n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawsant ar dy orchymynion, na'th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt. Yn yr un ysbryd a theimlad y dymunem ninnau gyfeirio at sefyllfa foesol a chrefyddol ein tadau yn yr ynys hon yn ystod yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Y mae genym bob sicrwydd mai isel a thruenus oedd sefyllfa foesol a chrefyddol trigolion Môn cyn sefydliad Methodistiaeth yma. Er eu bod yn galw eu hunain, ac yn cael eu galw gan eraill, yn Gristionogion, etto yr oeddynt o'r fath waelaf o Gristionogion. Nid paganiaid oeddynt mewn enw , ond yr oeddynt yn baganaidd mewn rhai arferion. Nid Cristionogion Pabyddol oeddynt mewn proffes, ond Cristionogion Protestanaidd — aelodau