Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/233

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn. Gwyddai yr Ysgrythyr Lân er yn fachgen; ac adnodau y Beibl ganddo wrth law at bob pwngc. Yr oedd fel Mynegair Ysgrythyrol. Y mae arnom ofn fod ychydig o eiddigedd dibechod ynddo at y cadeirydd o herwydd ei ddylanwad mawr. Ond cofier eu bod yn gyfeillion, ac wedi eu hordeinio gyda'u gilydd. Y gŵr hwn oedd y Parch. Cadwaladr Williams. Dyna ŵr arall yn codi i siarad—gŵr tal, harddwych, bywiog, llawn yni, ei frwd. frydedd a'i sêl yn ei ysu. Yr oedd y gŵr hwn a'r Parch. Cadwaladr Williams, fel Jonathan a Dafydd, mewn anwyldeb at eu gilydd. Llanwai y gŵr hwn le pwysig yn y Cyfarfod Misol. Efe oedd yn gofalu am oed y lleuad, mewn trefn i benu y cyfarfodydd misol i fod ar ddyddiau y ceid goleuni y lloer i arwain y cynnrychiolwyr yn ddiogel i'w llettyau. Yr oedd y gŵr hwn yn barchus iawn yn y Cyfarfod Misol, a'i enw ydoedd y Parch. John Prytherch. Dyma ddyn tal, esgyrniog, lled afrosgo ei symmudiadau, & golwg lled anfoddog arno, yn codi i fyny i gyfarch y cyfarfod. Y gwr hwn oedd amddiffynydd y ffydd. Yr oedd yn dwyn mawr sêl dros iachusrwydd yr athrawiaeth, fel pe buasai bywyd ac iechyd yr athrawiaeth yn ymddibynu arno ef yn unig. Gwelai y peryglon o bell; a bron na thybiem ei fod yn eu gweled pan nad oeddynt, ond yn ei ofnau ef. Cofier nad oedd dyn yn perthyn i Gyfarfod Misol Môn mwy cywir a chydwybodol na'r gweinidog hwn. Adnabyddid ef fel y Parch. David Elias. Wele un arall ar ei draed, ac yn dechreu siarad yn lled annyben, yn dechreu pigo i fyny y gwallau, yn lled bigog ei eiriau, crâs ei lais, a golwg lled ddiserch arno ar y cyfan. Ond dyn o'r iawn ryw ydoedd efe, er hyny. Nid ceiliog gwynt, yn troi gyda phob awel ydoedd hwn; ond hen dderwen gadarn. Ei enw ydoedd y Parch. David Jones, Dwyran. Gyda hyn, dyma Ioan, y dysgybl anwyl, yn codi, yn llawn tynerwch a chariad. Os oedd dadl yn flaenorol, ni chyffyrddai â hi mwy na phe buasai hi yn wahanglwyfus. Yr oedd diniweidrwydd yn disgleirio yn ei wynebpryd, ei ymddangosiad yn ennillgar dros ben, ei lais yn beraidd ac yn hyfryd, a'i ysbryd yn hwyliog. Pwy oedd hwn? Pwy hefyd? ond yr anwyl John Charles, Gwalchmai. Dyma ŵr arall yn ymddangos