ymdrech egniol yr eglwys ieuanc ei hunan, llwyddwyd i dalu yr holl ddyled fawr yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel. Nid yn fynych y cymer peth cyffelyb le yn hanes yr un eglwys. Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd " (Pc. cxv. 1). Yn y cyfwng—yn haf y flwyddyn 1890—ar ol gadael yr hen gapel, a chyn myned i'r capel newydd presennol, yr oedd yr eglwys Seisonig yn cynnal ei chyfarfodydd yn Neuadd Gyhoeddus y dref. Yn mlaen yr elai yr achos, ac yn y flwyddyn 1908 rhifai yr eglwys 136. Casglwyd at y weinidogaeth yn y flwyddyn 1908 191 12s. 3c., a chyfanswm yr holl gasgliadau am 1908 yn cyrhaedd £257 3s. 1½c. Gwerth yr eiddo ydyw £4450.
Agorwyd y capel newydd Ionawr 11eg, 1891, a phregethwyd drwy y dydd gan y Prifathraw Thomas Charles Edwards, D.D. Yr oedd y capel yn orlawn drwy y Sabboth, a'r Prifathraw yr adeg hono yn anterth ei nerth, a chafwyd oedfeuon effeithiol iawn. Bellach yr oedd yr achos yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes, ac yn parhau i enill tir. Llwyddwyd am rai blynyddoedd ar ol hyny sicrhau gwasanaeth Dr. Thain Davidson, Llundain, am fis Awst bob haf, a bu hyny hefyd yn fantais i lwyddiant yr achos. Yn nechreu y flwyddyn 1896 ymadawodd Mr. David Lewis, Eithinog, i breswylio i Lerpwl (ond a ddychwelodd drachefn yn y flwyddyn 1908), ac yr oedd ef wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr iawn i'r achos fel Trysorydd yr eglwys am flynyddau, ac yn arbenig yn nglŷn âg adeiladu y capel newydd, a dangosodd yr eglwys ei gwerthfawrogiad o'i wasanaeth trwy gyflwyno iddo Anerchiad oreuredig (Illuminated Address). Yn y flwyddyn 1896 penderfynwyd cael Organ i'r addoldy, ac ychwanegu ystafell i'w chynnwys. Y draul am hyn ydoedd £595, a thrwy Nodachfa a gynnaliwyd yr un flwyddyn, yn nghyda tanysgrifiadau personol, sicrhawyd y swm o £550, fel nad oes unrhyw ddyled yn aros ar y lle hwn.
Yn y flwyddyn 1898 dewiswyd y rhai canlynol yn swyddogion: Mri. John Lewis, ieu., Eithinog (dychwelodd i Lerpwl yn y flwyddyn 1904, a bu yntau yn gweithredu fel