Ond rhag i neb gael eu twyllo gan yr hudoliaethau, mynegwn yma y gwir fel y bu:—Oddeutu y flwyddyn 1788, fel yr oedd T.H., gynt o L-n-f-r, yn myned i'w daith rhyngddo â Llanelian, daeth o hyd i ddau wr dieithr, y rhai a ofynent iddo am gyfarwyddyd at Ffynon Elian, ac yntau a'u hyfforddiodd ati. Ond efe a ofynodd iddynt eu dyben o fyned yno. Mynegasant hwythau y cwbl iddo. Yna T.H. a fu mor onest a dywedyd iddynt nad oedd dim ond dwfr yn Ffynon Elian, a hwnw heb ddim mwy o rinwedd ynddo na rhyw ddwfr arall. Gwnaeth hefyd ei oreu i'w goleuo am dwyll swyngyfaredd, &c. Ond ni bu ei holl resymau ond ofer. Dywedasant y mynent hwy ei threio beth bynag a gostiai iddynt. Yna T.H. a yrodd yn mlaen, ac yn Llanelian cyfarfu â dyn o'r enw Shion y Crydd, a dywedodd wrtho, Shon, os ydwyt yn brin o arian i brynu lledr, mae yna ddau wr o L-n-d-l-s yn dyfod at Ffynon Elian yn achos eu chwaer sydd wedi bod yn sâl er's pum' mlynedd, ac yn myned yn salach o hyd, enw yr hon yw Ann Davies; myn di wneyd y tro iddynt, a gwna iddynt dalu pum' punt o leiaf i ti am dy boen; yr hyn a fydd yn gosp haeddianol iddynt am eu ffolineb. Ac i'w ffordd yr aeth T.H.
Yna y ddau wr a nesasant, a gofynasant i Shion am dŷ y Ffynonwr. Myfi yw,' ebe Shion, deuwch i'm tŷ. Ar ol iddynt fyned i mewn, tynodd Shion ei lyfr allan, a mynegodd iddynt o b'le yr oeddynt yn dyfodbeth oedd eu neges—enw y claf, &c. Dywedasant hwythau fod rhyw hen wr wedi bod yn ceisio eu perswadio i droi yn ol; ond yn awr yr ydym yn gweled ac yn gwybod mai da y gwnaethom ddyfod. Gofynasant pa faint a gostiai adferiad iechyd eu chwaer. Pum' punt,' ebe Shion. Eithr gan nad oedd ganddynt ond £4 10s. 0c., fe gymerodd hyny. Rhoddodd hefyd iddynt gostrelaid o ddwfr, gan ddywedyd mai dwfr Ffynon Elian ydoedd, gan eu cyfarwyddo i ddodi peth o hono yn mwyd eu chwaer am dri diwrnod. Dywedodd hefyd ei fod ef yn tynu enw eu chwaer allan o'i lyfr, ac wedi gwneyd rhyw ddefodau eraill, dywedodd y byddai hi yn holliach yn mhen y mis.
Felly y gwŷr a ddychwelent i'w gwlad, gan fawr ryfeddu doethineb gwr Ffynon Elian (fel ei galwent), a chredu yn ddiysgog yn rhinwedd ei gyfaredd. Ac ar ol adrodd y cwbl i'w chwaer, hi a wellhaodd yn fuan i'w chyflawn iechyd (er fod. meddygon wedi methu), ac nid rhyfedd, canys yn ei meddwl yr oedd y clefyd. Felly rhwng adferiad eu chwaer, a pharodrwydd Shion i fynegi iddynt eu neges, yr oedd yn naturiol i'r paganiaid penau-weiniaid a diras eu calonau, ymgadarnhau yn yr hudoliaeth.
Yn gyffelyb i'r tro uchod, mynych y chwareuwyd yr un fath ddichell â rhai a gyrchent i Lanelian, sef trwy iddynt fynegi eu helynt i ryw un prysur yn y gymydogaeth, ac i hwnw redeg at ei gyfaill; ac yna dychwelyd i arwain y dieithr i'r dafarn, a'i hyfforddi yn mhellach i gael ei gais!