Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/101

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ŵr heibio, a dechreuodd fy holi ynglŷn â'r hafotai yma. Gofynnai a oedd rhai ar werth neu ar osod. Dywedais innau fod hwn ar osod beth bynnag, gan nad oedd Mrs. Morus a'r teulu yn bwriadu dod yma eleni, ac wedi dweud wrthyf am gael tenant iddo os medrwn. Hoffai'r lle yn fawr ac wrth fynd oddi yma, meddai, 'Mae gennyf fodur yn y ffordd. Deuwch gyda mi cyn belled a Thafarn y Gors. Euthum innau ddigon difeddwl, gan mai anaml iawn y caf gyfle i weld neb yma i gael ymgom a gwydryn. Wedi inni gyrraedd y dafarn, rhyw—ddwy filltir o ffordd oddi yma y mae,—galwodd am ddiod. Yfais un gwydryn ac ni chofiaf ddim amdanaf fy hun wedi hynny. Rhyw dri chwarter awr yn ôl deffroais, ac amheuais fod rhywbeth o'i le. Mae'n rhaid fod y cnaf wedi rhoddi rhywbeth yn fy niod i'm gwneud i gysgu. Rhedais yr holl ffordd yn ôl yma, a dyma fi."

"Dyna'r felltith y ddiod yna," ebe Nansi, "ond nid oes amser i siarad am hynny yn awr. Rhaid i chwi geisio cael y lladron i'r ddalfa. Ewch i wneud eich hunan yn barod, a meddyliwch am ryw ffordd i hysbysu plismon.

Aeth Tom Ifans allan â'i ben i lawr. Teimlai Nansi mai dyma ei chyfle olaf i gael gafael ar y dyddlyfr. Aeth at yr hen gloc unwaith yn rhagor. Yr oedd wedi anghofio ei helbulon cyn gynted ag y cofiodd am y dyddlyfr. Agorodd y drws ac edrychodd drachefn i mewn i'r cas. Teimlodd â'i llaw hyd ei ochrau. Oedd, yr oedd hoelen a bach a allasai fod wedi dal y dyddlyfr ar y tu fewn i'r ochr chwith. Methai yn lân a deall beth allasai fod wedi digwydd iddo. Ai tybed ei fod wedi disgyn i lawr yn y fan a'r lle? Ni allai gyffwrdd â'r llawr o'r tu fewn. Yr oedd yn bosibl fod y llyfr yn y fan honno. Ond sut y caffai olau i weled. Yr oedd ei chorff bron yn gwbl tu fewn i'r cloc erbyn hyn. Estynnodd yn is ac yn is. Beth oedd hwnyna? Teimlai â blaenau ei bysedd rywbeth tebyg i fach arall yn is i lawr na'r cyntaf. Gwthiodd Nansi ei chorff i mewn ymhellach