Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

acw yn y llyfr, ond dim am yr ewyllys hyd a welai. Ond o'r diwedd gwelodd y geiriau, "Fy Ewyllys," a dechreuodd ei chalon guro'n gyflym.

"O'r diwedd," gwaeddai'n llawen, gan neidio ar ei thraed, er braw i Hannah, "Dyma fi wedi ei gael o'r diwedd."

Ar y ddalen yn ysgrifen grynedig Joseff Dafis, darllennodd Nansi y geiriau canlynol:

Y MAE FY EWYLLYS I'W CHAEL MEWN BOCS, YM MANC
Y MAES, PENYBEREM, YN ENW JOSIAH HARRIS, RHIF 148.

Hawdd gweled yn ôl lliw yr inc nad oedd yr ysgrif yn hen iawn.

"Dyna ddigon o brawf fod yr ewyllys yn bod," ebe Nansi yn uchel, "yr wyf yn siwr nad y Morusiaid gaiff y cwbl yn hon."

Aeth ymlaen i archwilio'r dyddlyfr yn fanylach, ond ni chanfu ddim ymhellach ynglŷn â'r ewyllys.

"Nid yw fawr ryfedd na ddaeth yr ewyllys i'r golwg," meddyliai Nansi. "Pwy fuasai yn breuddwydio am chwilio bocs yn y banc yn enw Josiah Harris? Bu bron iawn i'r hen Joseff a gorchfygu ei amcan ei hun y tro yma.

Torrwyd ar ei myfyr gan i'w thad ddod i mewn i'r gegin. Rhedodd Nansi i'w gyfarfod.

"Helo, Nans," cyfarchai hi mewn syndod, "pe gwyddwn eich bod yma buaswn adref ers meityn. Ond beth barodd i chwi ddyfod yn ôl o'r gwersyll? Onid oeddych wedi trefnu i aros yno yn hwy?"

"Wel," atebai Nansi, gan geisio cuddio ei brwdfrydedd, "y mae gennyf ddigon o reswm."

Cyn i'w thad fedru tynnu ei gôt a'i het, dechreuodd Nansi ar ei stori, ac adroddodd bopeth yn fanwl a gorffen drwy ddangos y dyddlyfr iddo yn fuddugoliaethus.

"Wel, Nansi," meddai Mr. Puw, mewn syndod, "chwi yw'r ditectif gorau welais erioed."

"Cael hwyl am fy mhen yr ydych," ebe Nansi, ond gwridai ei hwyneb â phleser dan ganmoliaeth ei thad.