Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Na, nid hwyl ydyw i mi, Nansi," meddai ei thad o ddifrif, "yr wyf yn teimlo'n falch ohonoch. Ni fuaswn wedi llwyddo cystal fy hunan. Dipyn o fenter oedd wynebu'r lladron, ond gan eich bod adref yn ddiogel unwaith eto mae popeth yn dda."

"Nid yw'r Morusiaid yn mynd i ddiolch llawer i mi pan welant beth a wneuthum.'

"Prin. Efallai y cyhuddant chwi o dorri i'w hafoty a lladrata o'r cloc, er bod y tŷ yn agored pan aethoch yno. Ond efallai y medrwn gadw'r wybodaeth yna oddi wrthynt, ac os llwyddwn i wneud hynny ni chânt byth wybod sut y cafwyd yr ewyllys."

Cymerodd Edward Puw y dyddlyfr yn ei law ac edrychodd drwyddo gyda diddordeb mawr. Deallai fwy ar ei gyfrinion na wnai Nansi.

"Y mae ffortiwn Joseff Dafis yn werth ei chael, yn ôl a welaf oddi wrth y ffigurau," meddai.

"Gobeithio na wêl y Morusiaid yr un ddimai goch ohoni," ebe Nansi. Ni allai anghofio y cam a wnaed â'r gweddill o'r perthynasau.

"Mae'n debyg mai felly y bydd," atebai ei thad. "Ond ni ellir bod yn sicr heb weled yr ewyllys. Os nad wyf yn camgymryd yn fawr, bydd canfod yr ewyllys ddiwethaf yn taro'r Morusiaid yn drwm iawn ar amser anffodus iawn."

"Beth ydych yn feddwl, fy nhad?"

"Wel, clywais yn gyfrinachol, fod William Morus wedi colli cryn lawer o'i arian yn ddiweddar. Mentrodd yn ormodol a chafodd fenthyg arian o'r banc ar sail ei fod yn disgwyl arian Joseff Dafis. Y mae yn dibynnu ar yr arian i'w dynnu allan o le cyfyng. Dyna paham y mae wrthi â'i holl egni yn ceisio gyrru pethau ymlaen i setlo yr ewyllys sydd ganddo."

Dwysbigodd cydwybod Nansi hi am foment. Yr oedd yn rhy galon dyner i edrych ar neb yn cwympo heb dosturio wrthynt. Ond cofiai yr un pryd mai ychydig,