"Deuais â'r dyddlyfr gyda mi. Dywedodd Hannah fod arnoch ei eisiau."
"Oedd, tybiais y buaswn ei eisiau i gael yr awdurdod i agor y bocs, ond llwyddais hebddo. Felly, fe'i rhown yn ddiogel yn y safe yma."
"Pa bryd y cychwynnwn am Benyberem?"
"Yn awr, ar unwaith. Yr wyf wedi llogi modur. A chyda llaw, Nansi, bûm yn meddwl ar fy ffordd i lawr i'r swyddfa y bore yma, ei bod yn hen bryd i ni gael cerbyd ein hunain. Os llwyddwn gyda'r ewyllys yma, prynaf fodur i ni ein hunain. A ydych wedi cael eich un ar bymtheg oed eto?
"Do, nhad," ebe Nansi a'i llygaid yn dawnsio.
"Felly bydd popeth yn iawn. Yr ydych yn ddigon hen i yrru'r cerbyd i mi."
"O nhad, mi fyddai hynny'n rhagorol," ebe Nansi. "Nid oes gan yr un eneth yn y byd crwn yma dad fel myfi."
Wedi iddo adael cyfarwyddiadau i'r swyddfa beth i'w wneud yn ei absenoldeb, aeth Mr. Puw allan gyda Nansi. Yr oedd y modur yn disgwyl wrthynt. Cyn hir yr oeddynt ar eu ffordd i Benyberem. Tynnodd y modur i fyny o flaen Banc y Maes.
I fewn yn yr ariandy, cyflwynodd Mr. Puw ei gerdyn, a gofynnodd am weled y rheolwr. Aethpwyd â hwy at y gŵr hwnnw i'w ystafell breifat ar unwaith. Gŵr canol oed, pryd tywyll ydoedd, a chododd i'w cyfarch fel yr elent i mewn.
Wedi'r cyflwyno arferol eglurodd Mr. Puw eu neges. Ond cyn iddo orffen torrodd y rheolwr ar ei draws mewn modd moesgar.
"Ofnaf yn wir eich bod wedi camgymryd," meddai. "Fu gennym ni yma erioed gysylltiadau â gŵr o'r enw Joseff Dafis."
"Efallai nad wrth yr enw hwnnw yr adweinid ef gennych chwi. Yr oedd cist iddo yma dan yr enw Josiah Harris."