Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr hen wraig yn cael pumcant," llefai Gwen o'r diwedd. Yr oedd Nansi wedi synnu iddi gadw'n ddistaw cyhyd. "Beth wnaeth Abigail Owen i gael pumcant? Ni wnaeth ronyn iddo erioed a ninnau wedi ei gadw mor ofalus am flynyddoedd."

Parhaodd Mr. Puw gyda'i ddarlleniad, "I'm neiaint, William a Lewis Ifans, dau gant a hanner o bunnau yr un."

"Nid oeddym yn disgwyl gymaint â hynny," ebe Lewis yn swta, ond â golwg foddhaol iawn ar ei wyneb.

"I'm cyfnitherod Ann a Margaret Harris, dau gant o bunnau yr un."

"Pwy fuasai'n meddwl y fath beth?" ebe Ann Harris, gan afael yn dynn yn llaw ei chwaer, a'r ddwy yn gwenu i wynebau ei gilydd yn llawen.'

Onid oes sôn amdanom ni?" gofynnai Mrs. Morus yn ddiamynedd ar draws y llawenhau cyffredinol.

Gwenodd Mr. Puw. "Oes, y mae són amdanoch yn yr ewyllys, Mrs. Morus," meddai, ac eisteddodd y Morusiaid yn fwy cyfforddus i wrando'r genadwri. "Gadawaf fy nodrefn sy'n awr dan ofal Mr. William Morus, i Besi a Glenys Roberts yn gyfartal rhyngddynt."

Aeth rhyw si drwy'r ystafell. Hanner gododd Mrs. Morus oddi ar ei chadair.

"Y fath anfri," meddai'n groch, "a yw Joseff Dafis mor ddigywilydd ag awgrymu imi ladrata ei ddodrefn?" "Nid fy lle i ydyw dweud beth oedd yn ei feddwl pan ysgrifennodd yr ewyllys, Mrs. Morus," meddai Mr. Puw gan wenu.

"Mr. Puw," meddai Besi'n dawel. "Mae gan Glenys a minnau ddigon heb y dodrefn."

"Oes yn siwr," ategai Glenys, "ni fynnem fynd a dodrefn Mrs. Morus oddi arni."

Plygodd Mr. Puw y papur yn araf a dododd ef yn ei ddesg yn bwyllog. Yr oedd yn amlwg ei fod yn disgwyl am rywbeth neu'i gilydd. Trodd at y perthynasau ac meddai, "Dyna'r cwbl o bwysigrwydd i chwi yma heddiw