NANSI'R DDITECTIF
PENNOD I
YR EWYLLYS
"MI fuasai'n gywilydd pe bai'r holl arian yn mynd i ddwylo teulu William Morus. Mi fyddant yn uwch eu pennau nag erioed."
Newydd gyrraedd adref o un o gyfarfodydd yr Urdd yr oedd Nansi, geneth hoffus un ar bymtheg oed. Merch ydoedd i Mr. Edward Puw, un o gyfreithwyr enwocaf a mwyaf poblogaidd Trefaes.
"Beth ddywedsoch chi Nansi? Beth sydd am y Morusiaid?"
"Doeddych chwi yn gwrando dim," ebe Nansi, "dim o gwbl. Dweud yr oeddwn nad yw'n deg i holl arian Joseff Dafis fynd i ddwylo'r Morusiaid ffroenuchel yna. Oes dim posib gwneud rhywbeth i atal y fath beth?"
Edrychodd Edward Puw yn syn ar ei ferch a chan dynnu ei sbectol ymaith oddi ar ei drwyn, atebodd,
"Mae arnaf ofn nad oes posib gwneud dim, Nansi. Ewyllys yw ewyllys, mi wyddost yn eithaf da."
"Ond y mae'n edrych yn beth annheg iawn, fod yr holl eiddo yn disgyn i'w meddiant. Ac yn enwedig pan gofiwch eu hymddygiad tuagat Joseff Dafis."
"Wel," ebe'i thad, gyda'i wên araf feddylgar, "fedr yr un ohonom gyhuddo'r Morusiaid o fod yn rhy garedig erioed. Er hynny, fe roisant gartref i Joseff Dafis.
"Do, ac mi ŵyr pawb pam. Cynllunio yr oeddynt iddo adael ei arian i gyd iddynt. Mae'n amlwg i'w cynllwyn lwyddo hefyd. Cafodd yr hen ŵr barch tywysogaidd nes iddo wneud ei ewyllys yn eu ffafr, ond wedyn, derbyniodd bob sarhad ganddynt."
"Does neb yn hoffi'r Morusiaid yn fawr yn Nhrefaes, yn nag oes?" atebai Mr. Puw yn sychlyd.