Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhawg, "ai rhywbeth am ei ewyllys?" Yr oedd pawb yn Nhrefaes yn gwybod yn dda fel yr oedd Joseff wedi ceisio mynegi rhyw gyfrinach wrth y meddyg ychydig funudau cyn marw.

"Pur debyg, Nansi. Efallai y bwriadai adael ei eiddo i berthynasau mwy anghenus. Ond beth bynnag oedd arno eisiau ddweud, collodd ei gyfle."

"Ond feallai ei fod wedi gwneud ewyllys felly a'i fod am adael i'r meddyg wybod amdani."

"Gallasai hynny fod, wrth gwrs. Dyn rhyfedd iawn oedd yr hen Joseff."

"Efallai iddo guddio'r ewyllys yn rhywle, ac iddo geisio dweud ymha le yr oedd," awgrymai Nansi'n ystyriol.

"Os gwnaeth ewyllys felly ofnaf na wêl byth olau dydd. Fe ofala'r Morusiaid am hynny."

"Beth sydd yn eich meddwl, nhad?"

"Wel, mae'r eiddo'n fawr, Nansi, ac nid yw'r Morusiaid am i neb weld ceiniog ohono. Fy marn bersonol yw y gofalant hwy na ddaw ail ewyllys byth i'r amlwg.

"A ydych yn meddwl y dinistriant hi pe caent hyd i un?"

"Wel, Nansi, nid wyf am wneuthur cyhuddiadau, ond gwn mai gŵr cyfrwys ydyw William Morus, ac nid yw yn hynod am ei onestrwydd chwaith."

"Oni ellir gwrthbrofi'r ewyllys bresennol?"

"Prin. Nid wyf wedi ystyried y mater, ond hyd y gwelaf y mae gan y Morusiaid bob hawl cyfreithiol i'r ffortiwn. Fe gostiai lawer i geisio gwrthbrofi'r ewyllys, ac hyd y gwn, pobl dlawd yw'r perthynasau eraill. Y maent wedi rhoi cais i mewn, yn honni bod ewyllys ddiweddarach wedi ei gwneud yn eu ffafr hwy, ond y mae'n amheus gennyf a â'r mater ymhellach."

"Ond nid yw'r Morusiaid yn haeddu'r ffortiwn, nhad. Nid yw peth fel yna'n deg.

"Na nid oes tegwch ynddo. Ond y mae'n gyfreithiol, ac ofnaf na ellir gwneuthur dim i gael cyfiawnder i'r perthynasau tlawd yna. Yr oedd dwy eneth tua Mur y