Maen, ac yr oedd Joseff yn bur hoff ohonynt. Dylasent fod hwy wedi cael rhywbeth ar ei ôl, ac y mae amryw o berthynasau eraill ddylai gael rhan o'r ffortiwn."
Bu Nansi'n ddistaw yn hir iawn ar ôl hyn, yn troi'r mater yn ei meddwl. Yr oedd ganddi feddwl craff, tebyg i'w thad. Dywedai ef yn aml fod ganddi feddwl fel ditectif, yn hoffi mynd ar ôl pethau, yn enwedig os byddai rhyw ddirgelwch o'u cwmpas.
Yr oedd Nansi'n amddifad o fam, ac felly yr oedd hi a'i thad yn hoff iawn o'i gilydd. Ymfalchïai ei thad iddo ei dysgu i feddwl drosti ei hun, a meddwl yn glir. Gwyddai yn dda y gallai ymddiried yn Nansi, ac oherwydd hynny dywedai lawer wrthi am yr achosion dyrys a diddorol a ddeuai i'w ran, fel twrne, i'w datrys.
Fwy nag unwaith bu Nansi'n bresennol gyda'i thad pan ddaeth rhai o uchel swyddogion yr heddlu i'r swyddfa i ymofyn ei gyngor. Unwaith cafodd fod yno pan ddaeth ditectif enwog i ymweled â'i thad ar fusnes pwysig. Diwrnodiau mawr oedd y rhai hyn i Nansi. Er hyn i gyd, nid geneth wedi ei sbwylio ydoedd: hoffid hi gan bawb, a dygai ei natur fwyn lu o gyfeillion iddi. Yr oedd colli ei mam a byw gymaint yng nghwmni ei thad wedi ei dysgu i ddibynnu arni ei hunan. Penderfynodd drefnu ei bywyd yn y modd y tybiai hi y dymunai ei mam iddi wneud, ac yr oedd cofio rhai o gynghorion ei mam iddi yn help i wneuthur hynny. Oherwydd hyn gwelid hi yn gyson yng nghyfarfodydd y capel, a deuai ei meddwl chwim, craff, o fantais iddi yn nadleuon yr Ysgol Sul. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Urdd ers blynyddoedd, ac wedi dwyn anrhydedd fwy nag unwaith o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Mabolgampau i Adran Trefaes.
Casbeth ganddi ydoedd anhegwch o unrhyw fath, ac ni allai oddef gweled y gwan yn dioddef. Yr oedd swyn neilltuol iddi, fel i bob geneth tuag un ar bymtheg oed, yn y gair "dirgelwch," ac ni byddai byth yn fodlon pan ddeuai ar draws rhyw ddirgelwch heb geisio ei ddatrys.