Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drefnu gwaith y dydd. Er mai un ar bymtheg oedd Nansi, yr oedd yn bur fedrus, a llwyddai hi a Hannah i gyd-dynnu yn ardderchog i edrych ar ôl y tŷ. Ar ôl marw ei mam flwyddyn cyn hynny penderfynodd Nansi edrych ar ôl y cartref gyda Hannah Parri, y forwyn fu gyda hwy fel teulu ers llawer blwyddyn.

Yr oedd Nansi yn boblogaidd yn yr ysgol, a chanddi ddigon o ffrindiau. Dywedai pobl Trefaes amdani bod iddi'r gallu o gymryd bywyd o ddifrif heb fod yn ddifrifol ei hunan.

Ffrind gorau Nansi yn yr ysgol oedd Eurona Lloyd. Y ddwy eneth fwyaf atgas ganddi yn y lle oedd Gwen a Phegi Morus. Beth bynnag ddigwyddai o'i le yn y dosbarth, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Un dydd collwyd ffon hoci ar y cae chwarae. Yn ôl eu harfer, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Ond yn ffodus, yr oedd rhai o gyfeillion Nansi wedi canfod Pegi yn cipio'r ffon i fyny a'i thaflu dros y gwrych. Daeth Rona ac un neu ddwy arall o gyfeillesau Nansi i ateb dros ei gonestrwydd at yr athrawes. Byth ar ôl hynny yr oedd yn gas gan y chwiorydd Nansi.

"Ni fyddaf yn ôl i ginio heddiw," ebe Nansi wrth Hannah. "Mae popeth yn barod ar gyfer swper heno, pan ddaw nhad adref."

Ymhen y stryd bu Nansi'n disgwyl ennyd am y 'bus,, ac yna ni bu'n hir cyn cyrraedd strydoedd prysur y dref. Aeth ar ei hunion i un o'r masnachdai mawrion a phrynodd amryw fân bethau ar y llawr isaf. Yna aeth i'r lifft ac esgynnodd i'r llawr cyntaf lle y gwerthid dilladau merched, gan feddwl prynu ffrog newydd ac un neu ddau o bethau eraill a dybiai yn angenrheidiol gogyfer â gwersyll yr Urdd. Pur brysur oedd hi yn y rhan honno o'r siop, a rhaid oedd iddi ddisgwyl ei thro. Eisteddodd i lawr yn hamddenol. Cyn hir tynnwyd ei sylw at ddwy eneth debyg iddi ei hun yn disgwyl eu tro, ond nid mor amyneddgar â hi. Gwelodd ar unwaith mai Gwen a Phegi Morus oeddynt.