"Hm," ebe'r eneth, "ofnaf y byddant yn waeth os cânt eiddo Joseff Dafis i gyd." Gostyngodd ei llais. "Nid oes dim wedi ei setlo eto, ond y maent yn sicr yn eu meddwl eu hun eu bod i gael y cwbl ar ei ôl." Rhoddodd ei genau wrth glust Nansi: "Clywais Miss Gwen yn dweud wrth ei chwaer, 'O, bydd gennym ddigon i brynu'r holl siop os mynnwn, wedi i'r twrneiod orffen ffraeo.' Ond fy nghred i yw bod y Morusiaid yn bryderus rhag ofn i rywun ddod ag ewyllys arall i'r golwg fydd yn gadael dim iddynt hwy.'
Yr oedd Nansi yn rhy gall o lawer i gyfnewid clebar efo'r eneth. Yr oedd ei thad wedi ei dysgu i wylio ei thafod. Ond yr oedd hysbysrwydd yr eneth o ddiddordeb iddi. Casglodd ar unwaith fod pryder y Morusiaid yn profi y credent bod ewyllys arall.
Ar ôl trefnu i anfon ei negesau adref, gwelodd Nansi ei bod wedi troi hanner dydd.
"Rhaid imi frysio neu byddaf yn rhy hwyr i fynd gyda'm tad," meddyliai wrth adael y siop.
Cyrhaeddodd swyddfa'i thad i'r funud, a chafodd ef ar fin cychwyn allan i gyfarfod Mr. Walters. Yr oedd Mr. Puw wedi trefnu popeth yn ei ffordd ofalus ei hun.
Nid oedd ond gwaith ychydig funudau o'r swyddfa i Westy Gwalia. Tu fewn i'r porth gwelent Mr. Walters yn eu haros. Cyflwynodd Mr. Puw ei ferch iddo, ac aethant drwodd i'r ystafell fwyta'n ddiymdroi, at fwrdd oedd wedi ei arlwy ar eu cyfair.
Ar y cychwyn troai'r sgwrs o gwmpas llu o wahanol bethau, ac fel yr äi'r cinio ymlaen soniai'r ddau dwrne am ddyddiau'r coleg ac am wahanol faterion ynglŷn â'u galwedigaeth. Ofnai Nansi na ddeuai Joseff Dafis a'i eiddo byth yn destun yr ymddiddan, a hithau yn disgwyl mor bryderus amdano.
Yna, wrth yfed coffi ar ôl y cinio, trodd Edward Puw yr ymgom yn fedrus iawn at rai o'r achosion rhyfedd oedd wedi disgyn i'w ran i'w datrys o dro i dro.