Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wair," atebai Mr. Puw. "Pe bawn i chwi, Nansi, ni fuaswn yn pendroni ynghylch y peth."

"Ni allaf beidio â phendroni heb sicrwydd im i fy hun nad oes ewyllys arall ar gael," atebai Nansi'n ystyfnig. "Rhowch ychydig amser i mi a mi a'ch synnaf i gyd."

Ond yn y 'bus, wrth fynd adref, ni theimlai mor sicr ohoni ei hun. Deuai amheuon i'w meddwl. Gwelai anhawsterau'r dasg oedd o'i blaen. Yr oedd yn benderfynol canfod ewyllys Joseff Dafis, ond nid oedd ganddi yr un syniad yn y byd mawr sut i ddechrau ar y gwaith.

"Ceffyl da yw 'wyllys," meddai Nansi wrthi ei hun drachefn a thrachefn. "Mae'r hen ddihareb yn hollol wir. Os gwnaeth yr hen Joseff ewyllys arall, ac os ydyw ar gael yn rhywle af ar ei thrywydd. Ac os caf hyd iddi gobeithiaf nad yn ffafr y Morusiaid y bydd."