"Daw cenllysg os oera lawer mwy," ebe Glenys, fel y cyrhaeddent ddrws y tŷ.
Tynasant eu hesgidiau a daethant i'r gegin gynnes, glyd, a daeth geneth ychydig yn hŷn na hwy atynt oddi wrth y tân.
"Besi, dyma ymwelydd â ni," ebe Glenys. "Miss Puw, dyma fy chwaer. Hi sy'n cadw'r teulu i fynd."
Ysgydwodd Besi law â Nansi'n galonnog, gan wenu'n garedig, geneth dal, olygus, gwallt du a llygaid tywyll. Casglai Nansi ei bod rhyw bedair blynedd yn hŷn na'i chwaer, Glenys. Wyneb caredig, llawn difrifwch, fel pe buasai wedi derbyn cyfrifoldeb pan yn ieuanc iawn.
Swynwyd Nansi gan groeso parod y chwiorydd, a theimlai yn hollol gartrefol yn eu cwmni ar unwaith.
"Yr ydych yn garedig iawn yn fy nerbyn fel hyn."
"Pleser yw i ni," ebe Besi; "anaml iawn y cawn y cyfle i weld genethod o'n hoed ni yma heb i ni fynd i Benyberem, ac anfynych iawn bydd hynny'n digwydd. Yr ydym yn falch iawn o'ch cael gyda ni am ychydig, Miss Puw."
"Nansi fydd pawb arall yn fy ngalw. Wnewch chwithau'r un modd?"
Yn fuan iawn yr oedd y tair geneth yn chwerthin ac yn siarad â'i gilydd fel hen gyfeillion. Gwyddai Nansi y byddai yn sicr o hoffi'r chwiorydd, ac yr oedd yn amlwg yr hoffent hwythau ei chwmni hithau.
Cyn hir tynnodd Besi gacen o'r popty.
"Mae hon yn barod," meddai, fel y tynnai'r gyllell yn lân ohoni, "nid oes eisiau ei gwylied ymhellach, felly awn i'r ystafell arall. Cewch brofi'r gacen cyn mynd adref, Nansi."
"Mae cacennau Besi'n werth eu bwyta," ebe Glenys. "Cogyddes wael iawn ydwyf fi. Gwell gennyf fod allan."
Aeth y tair drwodd i'r ystafell arall.