Mor ddiddorol oedd y sgwrs fel na sylwodd y genethod fod y storm wedi tawelu. Pelydryn o heulwen drwy'r ffenestr a dynnodd eu sylw fod Natur eilwaith yn gwenu o'r tuallan. Cododd Nansi i fynd.
"Y mae eich stori wedi fy niddori yn fawr," meddai wrth y genethod, "feallai y medr fy nhad wneud rhywbeth drosoch."
"O, nid oeddym yn meddwl gofyn cymorth," ebe Besi. "Nis gwn sut y bu i ni ddweud cymaint wrthych."
"Yr wyf yn falch iawn i chwi wneud hynny, ac os medraf yr wyf am eich helpu. Os gofyn fy nhad i chwi ddod i'w swyddfa yn Nhrefaes, a ddeuwch chwi?"
"Wel, deuwn, mi dybiaf," addawai Besi, yn araf, "ond yr ydym wedi dweud y cwbl wrthych am yr ewyllys."
"Y mae fy nhad yn rhyfeddol am gael hyd i bethau," ebe Nansi.
"Y mae eich tad yn garedig yn meddwl amdanom o gwbl," ebe Glenys. "Byddem yn dra diolchgar pe bai bosibl iddo wneud rhywbeth o'n plaid. Ni ddymunem yr un ddimai nad yw iawn i ni ei chael; ond edrych yn debyg iawn y dylem fod wedi cael rhywbeth."
"Peidiwch gobeithio gormod hyd nes y siaradaf â'm tad," cynghorai Nansi, wrth fynd am y drws. "Beth bynnag a ellir, gellwch fod yn sicr y gwneir ef."