Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V
Y DDWY CHWAER ETO

ER fod y glaw wedi peidio yr oedd golwg ofnadwy ar y ffordd ar ôl y storm.

"Buasem yn falch pe arhosech hyd yfory," meddai Besi. "Mae'r ffordd yn ddrwg iawn i chwi ei cherdded." "Nid oes ond ychydig dros ddwy filltir eto," atebai Nansi. "Byddaf adref cyn iddi dywyllu. Mi ddymunwn dalu i chwi am eich trafferth."

"Ni fuaswn yn breuddwydio am dderbyn dim gennych," ebe Besi'n bendant. "Ar ein hochr ni y mae'r diolch."

"Hwyl iawn oedd i chwi fod yma," ychwanegai Glenys.

O'r diwedd, ar ôl diolch i'r chwiorydd am eu caredigrwydd, ffarweliodd Nansi â hwy. Gwyliodd Besi a Glenys hi yn cerdded ar hyd y ffordd hyd nes aeth o'r golwg.

Cerddai Nansi'n gyflym, a buan iawn y daeth i olwg Trefaes. Penderfynodd alw yn swyddfa ei thad ar unwaith i adrodd ei helyntion wrtho. Fel yr elai i mewn i'w ystafell cododd ei thad o'i gadair i'w chyfarfod.

"Yr wyf yn falch o'ch gweld yn ôl yn ddiogel, Nansi," meddai. "Yr oeddwn wedi dechrau pryderu yn eich cylch. Phoniais i'r tŷ i edrych a oeddych wedi cyrraedd."

"Bûm yn brysur, 'nhad," atebai Nansi'n bwysig, ac ar unwaith dechreuodd adrodd i'w thad sut y cyfarfu â'r ddwy chwaer yn y tŷ unig, a'r hyn ganfu am ewyllys Joseff Dafis.

"Y mae Besi a Glenys cyn dloted â llygod eglwys, ac yn rhy falch i gyfaddef hynny," ebe Nansi, wrth orffen yr hanes. "Gresyn na fedrem wneuthur rhywbeth i'w helpu. Haeddasant ran o ffortiwn Joseff Dafis, ond ni