Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phegi yn eistedd ar un o seddi'r parc mewn ymddiddan difrif. Eisteddai'r ddwy wyneb yn wyneb, yn amlwg wedi anghofio pawb a phopeth. Dywedai rhywbeth wrth Nansi mai hi oedd testun y sgwrs. Os oedd am ddilyn ei llwybr byddai yn rhaid iddi basio heibio iddynt. "Os gwelant fi mae'n debyg y byddaf mewn helbul â hwy," meddyliai Nansi. "Gwn yn eithaf da na allaf gadw fy nhymer. Gwell fyddai i mi fynd dros y gwrych yn y fan yma, a cherdded ar hyd-ddo, a chroesi drosto drachefn y tuhwnt iddynt.'

Yr oedd Gwen a Phegi mor ddwfn yn eu hymddiddan fel na sylwasant ar Nansi o gwbl. Gan chwerthin ynddi ei hunan, neidiodd Nansi dros y gwrych, a cherddodd tu ôl iddo cyn ddistawed â llygoden. Y peth diwethaf ym meddwl Nansi oedd gwrando ar sgwrs y chwiorydd. Cerddai mor ddistaw er hynny fel y daeth eu geiriau yn eglur hollol i'w chlustiau. Dau air yn unig oedd yn ddigon i'w throi yn ddelw. Safai fel pe wedi ei pharlysu. Y ddau air a glywsai oedd "Joseff" ac "ewyllys."

"Ho," ebe hi, "siarad am yr ewyllys aie? Efallai y clywaf yn awr rywbeth am yr ewyllys goll a'r hyn ddigwyddodd iddi.'

Ni fuasai Nansi'n breuddwydio am wneud y fath beth â neb arall. Ond y tro hwn teimlai fod ei chydwybod yn berffaith glir. Cripiodd yn wyliadwrus yn nes i odre'r gwrych i wrando am ychwaneg. Yr oedd y gwrych yn drwchus, a thrwy wyro i lawr, medrai glywed geiriau'r ddwy chwaer yn eglur, tra parhâi hi yn anweledig iddynt hwy.

Curai ei chalon yn gynhyrfus. O na chlywai rywbeth i brofi fod y Morusiaid wedi amddifadu Besi a Glenys o ran o ffortiwn Joseff Dafis.