y deuai bob tro. Yr oedd un ddolen yn y gadwyn yngholl. Yr oedd rhywbeth bach wedi dianc o'i chof. Eisteddodd yn hir mewn myfyr dwfn yn ceisio dyfalu beth ydoedd, ac o'r diwedd safodd yn sydyn ar ei thraed. "Lle bûm i mor hir heb feddwl amdano? Nid y ddwy chwaer yw yr unig berthynasau ddylai fod yn etifeddion i'r eiddo. Yr oedd nifer o rai eraill ar wahân i'r genethod, a ddywedai nhad oedd wedi anfon apêl i'r llys. Pwy ydynt tybed? Pe cawn siarad â hwy, efallai y cawn ychwaneg o oleuni ar y mater.
Yr oedd yn sicr yn ei meddwl ei hun ei bod wedi taro'r hoelen ar ei phen ac ymaith â hi nerth ei thraed am swyddfa ei thad. Yr oedd rhywun gydag ef pan gyrhaeddodd Nansi, ond ni bu'n hir cyn cael mynediad i mewn ato, i'w ystafell breifat.
"Wel, Nans, beth sydd yn bod?" gofynnai ei thad, "pa newydd sydd gennych yn awr?"
Gwelodd ar unwaith fod ganddi ryw wybodaeth newydd i'w roddi iddo. Yr oedd ei hwyneb yn wridog a'i llygaid yn dawnsio gan lawenydd.
"Nhad," meddai, "yr wyf wedi darganfod rhywbeth pwysig iawn, ac y mae arnaf eisiau gwybodaeth gennych.'
"Yr wyf yma at eich gwasanaeth, miss," ebe'i thad yn gellweirus, "ond pa wybodaeth sydd gennych eisiau gennyf fi? Os mai rhywbeth ynghylch Joseff Dafis a'i ewyllys, ni allaf ddweud mwy na'r hyn ddywedais eisoes.
Adroddodd Nansi wrtho ei hanturiaethau yn ystod y prynhawn, yn y siop ac yn y parc wedi hynny. Gwrandawodd Mr. Puw arni gyda diddordeb hyd y diwedd.
"Ac yn awr beth fynnwch gennyf fi?" gofynnai.
"Meddyliais pe bawn yn mynd at y perthynasau eraill y gallwn gael hyd i rywbeth i'n helpu i ddatrys y dirgelwch."
"Syniad rhagorol iawn Nansi."
"Ond nis gwn pwy ydynt na beth yw eu henwau," ebe Nansi. "Dyna paham y deuthum yma atoch chwi."