Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo i fyny heb ymdrech galed. Nid ydynt o'r teip i ildio yn rhwydd i neb. Nid yw wahaniaeth ganddynt chwaith pa arfau ddewisant. Byddant yn barod i wneuthur rhywbeth rhag colli yr ystad. Ond os bydd raid, deuaf finnau i'r frwydr. Gresyn na buasai gennyf amser i'ch helpu i ddarganfod yr ewyllys."

"Ac os caf hyd iddi?"

"Hei lwc, AF finnau â'r mater i'r llys."

"O diolch yn fawr, nhad; nid oes neb fel chwi yn y byd crwn." Wrth gerdded at y drws meddai, "Efallai na byddaf yn ôl am oriau. Teimlaf rywfodd y deuaf ar draws rhywbeth pwysig heddiw. Af ar ei ôl, doed a ddelo."

Ac ymaith â Nansi i'r stryd.