PENNOD VIII
DIWRNOD DIGON DI-HWYL
LLWYDDODD Nansi i ddal 'bus yn cyfeirio at Fur y Maen. Gallasai gerdded yn hwylus o'r fan honno (eglwys, gwesty ac un neu ddau o dai oedd yno), i gartref y ddwy chwaer.
"Gobeithio na chaf wlaw fel y tro o'r blaen," meddyliai wrth deithio ar y 'bus.
Ni bu'n hir cyn cyrraedd Mur y Maen. Disgynnodd o'r ''bus, ac ymlaen â hi heibio talcen yr eglwys i fyny'r bryn. Cyn hir daeth i olwg y ffermdy. Gwelai ef yn well y tro hwn, ac o gyfeiriad gwahanol. Meddyliai iddi ei weled yn fwy o adfail nag o'r blaen. Nid oedd ôl paent arno ac edrychai fel pe bron mynd â'i ben iddo. Gwelai'r ysgubor lle cafodd loches, a methai ddeall sut yn y byd y daliodd bwysau storm erioed.
"Pe bai gan Besi a Glenys arian, fe wnaent y lle yn daclus a thwt," meddai wrth nesáu at y tŷ.
Rhedai ieir a chywion dan ei thraed fel y croesai'r buarth. Aeth at ddrws y gegin a churodd. Ni chafodd ateb. Aeth heibio i'r talcen a churodd drachefn ar ddrws y ffrynt.
Chwiliodd o gwmpas y tŷ ond nid oedd golwg o'r ddwy chwaer yn unman. Trodd i gychwyn adref a theimlai braidd yn ddigalon. Yr oedd ei thaith yn ofer wedi'r cwbl, a'i gobaith hithau mor gryf cyn iddi gychwyn o swyddfa ei thad.
"Rhwystrau o bob cyfeiriad," meddai wrthi ei hun wrth fynd yn ôl am y ffordd, "dim ond anhawsterau o hyd i'w hwynebu."
"Helo, helo!" gwaeddai llais o draw.
Cyrhaeddodd y llais Nansi a hithau wedi myned drwy'r llidiart i'r ffordd. Trodd, a gwelodd y chwiorydd yn rhedeg tuag ati o gyfeiriad yr ysgubor. Glenys redodd gyntaf.