Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyflymach oherwydd hynny. Wedi iddi gerdded rhyw dri chwarter milltir cyferfu ddyn ar y ffordd a holodd ef am Ddolgau, cartref y ddau nai. Cafodd gyfarwyddyd i droi ar y dde ychydig ymhellach ymlaen. Cyrhaeddodd y fferm yn ddiogel. Daeth gŵr at y drws mewn ateb i'w chnoc, ac wedi deall mai William Ifans ydoedd, eglurodd Nansi ei neges. Pur gyndyn oedd y gŵr i ddweud dim ar y dechrau, ond pan fodlonodd ei hun nad oedd Nansi o blaid y Morusiaid, gwahoddodd hi i'r tŷ, ac agorodd ei galon iddi ynghylch Joseff Dafis. Dywedodd yr oll a wyddai am yr ewyllys.

"Y mae fy mrawd a minnau wedi dod â'r mater i sylw awdurdodau'r llys," eglurai. "Yr ydym bron yn sicr bod ewyllys arall wedi ei gwneuthur, gan y dywedai f'ewythr Joseff bob amser y bwriadai adael rhywbeth inni ar ei ôl."

"A welsoch chwi yr ewyllys rywdro?" gofynnai Nansi'n obeithiol.

Ysgydwodd y ffermwr ei ben. "Na, nid oes gan fy mrawd na minnau ddim i brofi iddo wneuthur ewyllys arall. Ond gwyddom yn eithaf da, tuhwnt i bob amheuaeth, nad oedd yn dda ganddo'r Morusiaid. Teimlai ef bob amser mai eu rheswm dros ei groesawu ydoedd eu hawydd am feddiannu ei arian. Nid oedd eu croeso iddo ond ffug a gwyddai yr hen frawd hynny'n dda. Credaf ei fod yn hollol yn ei le yn dal y syniad hwn amdanynt. Yr oedd y peth yn amlwg i bob un ohonom."

"Efallai iddo esgeuluso gwneuthur ewyllys arall, neu iddo fethu â chario ei fwriad allan oherwydd iddo ei gymryd yn wael."

"Peidiwch petruso ynghylch hynny, Miss Puw. Nid oeddych yn adnabod f'ewythr. Nid dyn i fethu gwneud yr hyn a ddymunai ydoedd Joseff Dafis. Yr oedd yn un o'r rhai rhyfeddaf fyw mewn pethau bychain, ond yr oedd yn dra gofalus gyda materion pwysig. Mae'n haws o lawer gennyf fi i gredu iddo wneud ei ewyllys a'i chuddio mewn man diogel wedi iddo ei gwneud.'