Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddweud unpeth i'w chynorthwyo yn ei hymchwil amdani.

"Paham nad ewch at Abigail Owen," awgrymai Ann o'r diwedd, yn eiddgar i helpu Nansi. "Gofalodd Abigail am Joseff Dafis yn ei waeledd unwaith. Yr oedd yn meddwl y byd ohoni. Deallai hi ei ffyrdd yn well na neb arall. Os oes rhywun o'r perthynasau all eich helpu, Abigail ydyw honno."

Methaf weld pa les fydd i'r foneddiges yma fynd at Abigail. Mae hi wedi mynd i oed yn awr a'i chof yn bur wallus," meddai ei chwaer.

Rhaid oedd i Nansi eu gadael a rhedeg nerth ei thraed i Benyberem i ddal ei 'bus. Yr oedd yn bur flinedig a newynog. "Hyd yma dyna ddiwrnod wedi ei wastraffu," meddai. "Nid wyf ronyn nes i ddarganfod yr ewyllys. Yr unig beth wyf yn sicr ohono yw fod ewyllys yn rhywle. Gallaf yn hawdd gredu fy nhad yn awr mai dyfalbarhad yn unig all ddatrys y dirgelwch.

Yr oedd wedi ymweled a pherthynasau Joseff Dafis i gyd yn awr oddigerth Abigail Owen. Ac yn ôl tystiolaeth un o'r ddwy chwaer amheuai a oedd yn werth iddi wario'r amser i ymweled â'r hen wraig. Yn wir, fel y rhedai drwy ddigwyddiadau a dywediadau y dydd yn ei meddwl, tyrrai'r amheuon i'w dyrysu. Rywfodd teimlai fod popeth yn ei herbyn. Yr oedd mor obeithiol pan gychwynnodd allan o swyddfa ei thad ychydig oriau ynghynt.

Daliodd ei 'bus yn ddidrafferth er ei bod mor flinedig, a suddodd i'r glustog esmwyth gydag ochenaid o ollyngdod, na byddai raid iddi gerdded yr holl ffordd i Drefaes. Yr oedd ar fin dod i'r penderfyniad i roi'r ymdrech i fyny. Ond yn ei meddwl gwelai eto frwydr ddewr Besi a Glenys i ennill eu tamaid yn yr hen ffermdy bregus. Gwelai'r wên hoffus ar wyneb Besi pan syllai'n ystyriol ar ei chwaer. Ac yn sydyn daeth i'w chof yr hanesyn difyr arferai ei mam adrodd wrthi am Robert Bruce a'r pryf copyn yn yr ogof, Pan oedd hi mor barod i ddi-