Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aid o ddwr arno. Aeth ati wedyn i baratoi bwyd, a gwnaeth Abigail yn gyfforddus. Molchodd hi yn lân a gofidiai ei gweld mor ddiymgeledd. Rhoddodd olew ar y mân ddoluriau oedd yn y golwg, ac wedi iro'r ffêr yn drwyadl, rhoddodd y rhwymyn yn dynn amdano.

"Yr wyf yn teimlo yn llawer iawn gwell yn barod," ebe Abigail yn llawn diolch. "Ni wn beth a wnawn onibai i chwi ddod pan ddaethoch."

Wrth fwynhau ychydig luniaeth dechreuodd Nansi adrodd ychydig o'i hanes wrth Abigail. Llonnodd llygaid yr hen wraig wrth siarad.

"Nid pawb fuasai'n helpu hen wraig dlawd fel myfi," meddai, "pe buasai Joseff Dafis yn fyw, buasai yn wahanol iawn arnaf."

"A oedd y Joseff Dafis yma yn garedig wrthych?" gofynnai Nansi. Nid oedd am amlygu gwir amcan ei hymweliad os gallai osgoi hynny. Credai, a gobeithiai y medrai gael yr hen wraig i siarad am Joseff Dafis heb godi gobeithion yn ei chalon, na sylweddolid byth o bosibl.

"Yr oedd Joseff yn selog am gofio amdanaf bob amser," ychwanegai Abigail. "Y mae'n rhaid ei fod wedi gadael peth imi yn ei ewyllys. Dywedodd ddegau o weithiau tra bu'n wael a minnau'n gofalu amdano, 'Cofiaf amdanat yn fy ewyllys, Abigail. Ni bydd byth yn edifar gennyt edrych ar fy ôl fel hyn'."

"Ac yna gadawodd y cwbl i'r Morusiaid," ebe Nansi, mewn ymdrech i gael yr hen wraig i barhau ei sgwrs.

"Yn ôl yr ewyllys gyntaf oedd hynny," ebe Abigail, "ond gwnaeth Joseff ewyllys arall ar ôl honno, beth bynnag ddaeth ohoni."

"A ydych yn berffaith sicr fod yna ewyllys arall?" gofynnai Nansi, braidd yn or-eiddgar, a gwelai fod llygaid Abigail arni ar unwaith.

'Wrth gwrs yr wyf yn sicr; cyn sicred a fy mod yn gorwedd yma'n awr. Oni welais hi â'm llygaid fy hun?" "Beth?" ochai Nansi, "gwelsoch yr ewyllys eich hun?"