forwyn yn peri diflastod iddi. Yr oedd rhyw ormodedd o bopeth ynddi, a dim byd yn syml a phrydferth. Rhywfodd edrychai popeth o'i le ynddi er fod ol arian ym mhob twll a chongl ynddi. Nid oedd y darluniau olew ar y muriau yn fuddiol i ystafell mor fechan. Yr oedd nifer o lin-ysgythriadau gwerthfawr ynghudd yn y rhan dywyllaf ohoni. Yr oedd amrywiaeth yng nghyfnod y dodrefn er yr ymddangosai mor ddrudfawr.
Ond nid yn null Mrs. Morrus o ddodrefnu yr oedd diddordeb Nansi. Cyn gynted ag yr aeth y forwyn allan o'r ystafell, edrychodd o'i chwmpas yn chwim. Ar unwaith disgynnodd ei llygaid ar gloc hardd yn y gongl chwith i'r tân. Cloc wyth niwrnod, canolfaint ffasiwn newydd.
"Nid hwnyna yw cloc Joseff Dafis," meddai Nansi wrthi ei hun.
Yr oedd ar fin mynd ato i'w weled yn well, pan glywodd sŵn traed, ac mewn amrant yr oedd Nansi yn eistedd yn hamddenol yn y gadair nesaf ati.
Daeth Mrs. Morus i mewn yn fawreddog a phwysig, ac wedi edrych arni am foment yn oeraidd, meddai,
"Wel, beth sydd arnoch eisiau?"
"Yr wyf yn gwerthu
"Nid oes arnaf eisiau yr un," ebe Mrs. Morus ar ei thraws, "ni fedraf daflu arian i bawb ddaw heibio'r tŷ yma i fegera."
Gwridodd Nansi pan deimlodd y saeth yng ngeiriau Mrs. Morus. "Nid begera ydwyf," meddai yn stiff. "Efallai na ddeallasoch pwy ydwyf. Fy enw yw Nansi Puw, merch Mr. Edward Puw.'
Daeth cyfnewidiad dros wyneb Mrs. Morus ar unwaith. Gwyddai yn dda y caffai Nansi a'i thad groeso ar aelwydydd Trefaes, na chaffai hi na'i theulu byth fynediad iddynt. "Ni ddeallais pwy oeddych, Miss Puw. Beth ydych yn ei werthu?"
Eglurodd Nansi ei neges wrthi.
"Wel, nis gwn yn iawn beth i'w ddweud," atebai