PENNOD XIII
MEWN PERYGL
WRTH ddychwelyd yn y cwch penderfynodd Nansi ynddi ei hun y dychwelai i hafoty'r Morusiaid trannoeth wrthi ei hunan. Yr oedd perygl iddynt ddyfod yno cyn iddi gael cyfle i ymweled â'r byngalo yn eu habsenoldeb. Cyn mynd i orffwys y noson honno dan gynfas dywedodd fwy nag unwaith mor flinedig yr oedd, a chymaint angen gorffwys a llonyddwch oedd arni. Ond yr oedd yn trefnu pethau heb gymryd cyfrif o Rona. Deffrôdd trannoeth a llond ei ffroenau o arogl pinwydd hyfryd yn gymysg ag arogl y borefwyd yn y gwersyll. Teimlai'n hynod fywiog wedi cysgu noson yn y babell. Ni wyddai Nansi ei bod yn cael profiad miloedd o filwyr yn y Rhyfel Mawr nad oes cwsg tebyg i gwsg dan gynfas.
Wedi bwyta'n sylweddol bu raid i Nansi gydymffurfio â threfniadau'r gwersyll. Er fod popeth mor rwydd a didrafferth ynddo gwelodd yn fuan fod yn rhaid syrthio i mewn â phob cynllun er budd pawb yn y gwersyll. Rhoddodd i fyny'r syniad o ymweled â hafoty'r Morusiaid ar unwaith. Gwelai ei bod yn anobeithiol os oedd am gymryd ei rhan fel aelod o'r gwersyll. Yr oedd rhywbeth i'w wneud a rhywle i fynd iddo drwy'r dydd. Erbyn nos yr oedd Nansi mor lluddedig fel mai prin y gallai gadw ei llygaid yn agored ac yr oedd yn falch iawn o weld ei gwely;
"Yfory," meddai cyn syrthio i drwmgwsg, "rhaid i mi gael cyfle i ymweled â byngalo'r Morusiaid."
Bore trannoeth, "trefn y dydd" oedd testun ymddiddan y bwrdd brecwast ar ei hyd. "Yr ydym i ddringo Moel y Fedwen heddiw," meddai Rona wrth Nansi, "a ydych yn barod i'r dasg?"