"Yn wir, Rona, carwn yn arw gael llonydd heddiw," atebai Nansi, "nid wyf yn teimlo yn dda iawn. Pe cawn orffwys ychydig credaf y buaswn lawer iawn yn well."
"Gresyn garw," ebe Rona, "gwn beth wnaf. Arhosaf yma gyda chwi.'
Yr oedd atebiad Rona yn hollol nodweddiadol ohoni. Pan oedd cyfeillgarwch yn y cwestiwn, rhoddai Rona bob amser ei chyfeilles yn gyntaf a hi ei hun yn ail.
"Dim o'r fath beth," meddai Nansi fel ergyd. "Ewch chwi gyda'r fintai. Byddaf fi yn hollol hapus yng nghyffiniau'r gwersyll am heddiw.
"Ie," ebe Rona, "ond nid wyf yn hoffi eich gweled chwi yn aros yn y
"Byddaf fi yn hollol iawn, Rona," meddai Nansi, "os teimlaf yn well bydd yn hawdd iawn imi fynd ar y cwch ar y llyn am ychydig."
"Byddwch yn ofalus, Nansi. Cofiwch nad yw yn hawdd i un ei rwyfo.
"Cymeraf bob gofal, Rona. Ond, o ran hynny, efallai nad af o gwbl. Mae'n dibynnu yn union sut y teimlaf." Prin y gallai Nansi guddio ei hawydd i gael y genethod oddi ar y ffordd. Cymaint oedd ei phryder i adael y gwersyll fel y teimlai bron fod pob geneth am yr arafaf i gychwyn ar y dringo. O'r diwedd dyna'r fintai yn cychwyn.
"Edrychwch ar ôl eich hun," gwaeddai Rona dros ei hysgwydd fel y symudai'r genethod gyda'i gilydd o'r gwersyll.
Cyn gynted ag yr oeddynt o'r golwg, prysurodd Nansi i lawr at lan y llyn i'r fan lle rhwymid y cwch. Yr oedd yn gyfarwydd â rhwyfo. Yr oedd wedi dysgu trin cwch yn ystod ei gwyliau haf gyda'i thad y flwyddyn cynt. Bob tro yr elai i Gaerangor manteisiai ar y cyfle i fynd ar y môr mewn cwch rhwyfo. Ond nid oedd erioed wedi gorfod ymddiried ynddi ei hun gyda chwch rhwyfo ar lyn o'r blaen. Eisteddodd yn ofalus yng nghanol y cwch, a chan drefnu ei rhwyfau yn barod i'w