Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/92

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

filltir a hanner. Penderfynodd Nansi adael y 'bus yn y lle agosaf a cherdded i fyny yn ôl at yr hafotai.

Daeth y cerdded â'r gwrid yn ôl i'w gruddiau. Er y teimlai braidd yn euog o dwyllo ei chyfeillion yn y gwersyll ni allai lai na chwerthin, yn foddhaus am lwyddiant ei chynllun. Yr oedd wedi llwyddo i adael y gwersyll heb ddeffro yr un amheuaeth ynghylch ei pherwyl.

Fel y nesai at y byngalo, cyflymai curiad ei chalon wrth feddwl ei bod ar fin cael gweled y cloc. Teimlai'n sicr, unwaith y caffai ato, na fyddai fawr drafferth iddi gael gafael ar y dyddlyfr. Pasiodd amryw hafotai, rhai â phobl ynddynt ac eraill ynghau.

"Gobeithio y gwelaf y gŵr sy'n edrych ar ôl y lle," meddyliai Nansi.

Yr oedd erbyn hyn wedi cyrraedd hyd at yr hafoty. Sylwai fod y drws yn agored ac amlwg fod rhywun o'i gwmpas. "Un ai maent wedi cyrraedd yma neu mae rhywun wrthi'n paratoi ar eu cyfer," meddai wrth ei hun.

Nesaodd yn ochelgar a chyrhaeddodd y drws heb ganfod neb. Curodd, ond ni chafodd ateb. Mentrodd i mewn i'r ystafell gyntaf yn ddiwahodd. Yr oedd popeth mewn anhrefn, y dodrefn yn blith drafflith. Dyfalai Nansi beth allasai hyn fod. Edrychai'r lle yn debycach i fel pe bai rhywun yn mudo oddi yno nag i le yn cael ei baratoi ar gyfer ymwelwyr.

"Tybed mai lladron sydd yma, liw dydd fel hyn? Tybed imi eu dychryn ymaith am eiliad neu ddau?"

Yr oedd wedi darllen fwy nag unwaith am achosion o ladrad o hafotai fel hyn yn absenoldeb y meddianwyr, ac am foment safodd Nansi â rhyw ias oer o ofn yn rhedeg drosti. Tybed a oedd llygad lleidr arni y funud hon o gongl yr ystafell? Tybed ei fod yn paratoi i neidio arni o'i guddfan? Arswydai Nansi wrth feddwl beth allsai ddigwydd iddi.

Ond daeth ei gwroldeb naturiol i'w chymorth eto. Yr oedd popeth mor ddistaw. Bu bron iddi a rhoddi i mewn i'w hofnau a rhuthro'n bendramwnwgl allan o'r