Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwthyn. Adfeddiannodd ei hun, ac yn araf enillodd ei nerf yn ôl.

Sylweddolodd fod y lle wedi ei ddodrefnu'n well na'r cyffredin. Nid dodrefn tlawd oedd yno. Yr oedd yno helfa ardderchog i ladron. Dechreuodd Nansi symud o gwmpas. Tybed oedd y cloc yno o hyd?

Nid cynt y daeth y cloc i'w meddwl nag y gwelodd ef. Yr oedd yn union fel y disgrifid ef gan Abigail Owen. Ond yr oedd llygaid y llew yn llonydd. Nid oedd y cloc yn mynd.

Aeth ato i'w archwilio. Agorodd ei ddrws a theimlodd tufewn i'w gâs. Nid oedd olwg o'r dyddlyfr. Ai tybed fod rhywun arall wedi clywed amdano, ac mai hyn oedd yr eglurhad am yr anhrefn? Neu tybed a oedd y dyddlyfr wedi ei golli wrth symud y cloc? Cofiai fod yn rhaid tynnu cloc wyth niwrnod oddi wrth ei gilydd cyn y gellid ei symud fel rheol. Hawdd felly fuasai i'r llyfr syrthio allan heb i neb sylwi.

Safodd Nansi'n syn yn edrych ar y cloc a'i siom bron a'i llethu. Yr oedd ei dagrau ar fin treiglo i lawr ei gruddiau.

"Gresyn na fedret siarad," meddai wrtho'n uchel.

Atseiniodd sŵn ei llais drwy'r tŷ gwag mor uchel fel y neidiodd Nansi yn ei hesgidiau. Daeth ias newydd drosti unwaith yn rhagor, ac ni allai gael ymwared â'r meddwl nad oedd rhywun yn ei gwylio.

"Nid oes yma ddim i'w ofni," meddai i gysuro ei hun drachefn.

Edrychodd o amgylch yn fwy gofalus. Methai beidio casglu nad lladrad fu yn y bwthyn. Os felly gorau po gyntaf iddi hithau ymadael. Rhoddodd un tro o gwmpas yr ystafell cyn mynd allan. Wrth fynd heibio'r ffenestr at y drws daeth ei chalon i'w gwddf mewn braw. oedd dyn trwm yr olwg arno yn cerdded i fyny at y tŷ a'i gap wedi ei dynnu i lawr dros ei lygaid. Dywedai rhywbeth wrth Nansi nad y gofalwr ydoedd ac yn ddiymdroi chwiliodd am le i ymguddio. Ehedodd i un