Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r ystafelloedd cysgu. A chyn gynted ag y gwnaeth hynny sylweddolodd ei bod yn gwneuthur peth ffôl. Nid oedd dihangfa iddi oddi yno ond drwy'r drws ac yr oedd fel llygoden mewn trap.

Yr oedd yn rhy ddiweddar i ddychwelyd i'r ystafell fyw a cheisio ymguddio yno, gan fod y dieithryn erbyn hyn ar ei gwarthaf. Yr oedd wedi dod i mewn i'r tŷ. Cymerodd llygaid Nansi yr holl ystafell wely i mewn ar un edrychiad. Gwelai gwpwrdd yn y mur. Agorodd ei ddrws yn frysiog a rhoddodd ochenaid o ollyngdod pan ganfu ei fod yn wâg, ac fod ynddo ddigon o le iddi ymguddio. Neidiodd i mewn iddo a chauodd y drws yn ddistaw arni ei hun, gan adael agen denau iddi gael awyr a gweld ychydig o'r ystafell. Yr oedd y drws yn union o flaen yr agen.

Daeth y dyn i mewn i'r ystafell wely ar ei union. Am foment ofnai Nansi ei fod wedi ei gweled. Suddodd ei chalon wrth ei weled yn sefyll yn y drws. Yn ddiarwybod iddo yr oedd Nansi yn edrych yn syth i'w lygaid. Ond toc crwydrai ei lygaid o gylch yr ystafell, a chan na edrychai ar unrhyw beth yn fwy manwl na'i gilydd curai calon Nansi'n esmwythach.

Yr

Nid lle cyfforddus oedd y cwpwrdd fel cuddfan. oedd yn dywyll a llaith ac yn llawn hoelion. Yr oedd arogl llwydni anhyfryd ynddo, ac yr oedd rhuthr Nansi wedi deffro'r llwch trwchus. Teimlai angen anioddefol i disian.

"Os tisiaf, mae ar ben arnaf," ebe wrthi ei hun, fe wyddant nad cath sydd yma.

Teimlodd o'i chwmpas â'i llaw yn y tywyllwch. Daeth i gyffyrddiad â hoelen. Ymhellach ymlaen disgynnodd ei llaw ar rywbeth llyfn blewog a bu bron iddi a rhoddi ysgrech. Magodd ddigon o wroldeb i afael ynddo drachefn ac yr oedd yn ddiolchgar na ddarfu iddi weiddi, pan ganfu mai hen ffyr ydoedd.

"Yn bryfed i gyd, mae'n siwr," meddai, "yr wyf yn sicr o disian yn y munud."