Daliodd ei llaw ar ei genau a disgwyliai'n bryderus am y ffrwydriad. Ac yn sydyn daeth i'w chof gyngor un o'r genethod yn yr ysgol rhag tisian. Pwysodd â'i bys ar ei gwefl uchaf pan oedd ar fin tisian ac yn araf ciliodd yr awydd.
Meiddiodd Nansi gymryd cip arall drwy gil y drws, a chynhyddwyd ei phenbleth fod dau ddyn arall wedi ymuno â'r cyntaf. Ni hoffai Nansi olwg yr un o'r tri. Wynebau hagr oedd iddynt oll. Yr oedd yn amlwg mai'r cyntaf oedd yr arweinydd arnynt.
"Dipyn yn gyflym o'i chwmpas," clywai Nansi ef yn eglur. "Y mae amryw o bethau gwerthfawr allwn droi yn arian yma eto. Ewch â'r canhwyllbrennau pres yna, a'r darluniau yna ar y mur i'r modur ar darawiad."
Yr oedd yn amlwg na weithiai'r ddau ddyn yn ddigon cyflym.
"Os mewn cymaint brys," meddai un ohonynt yn swta, "paham na fuasech yn dyfod â'r modur yn nes i'r tŷ?"
"Ie," ebe'r ail, "yn lle bod rhywun yn ein gweled o'r ffordd."
Gwyliai Nansi hwynt yn amyneddgar yn symud popeth o werth o'r ystafell. Nid oedd wiw iddi symud na llaw na throed. O'r diwedd nid oedd dim o werth yn aros.
Trodd yr arweinydd i ddilyn ei gymdeithion. Ond ar y rhiniog trodd drachefn i gael cip olaf ar yr ystafell rhag ofn fod rhywbeth o werth wedi ei adael. A'r foment honno daeth eisiau tisian ar Nansi drachefn. Yr oedd yn rhy ddiweddar yn pwyso ei bys ar ei gwefl, a bu bron iddi a syrthio allan o'r cwpwrdd. Rhoddodd y fath glec fel y neidiodd y dyn fel pe wedi ei saethu.
Ar amrantiad yr oedd y lleidr wrth ddrws y cwpwrdd, a thynnodd ef yn llydan agored. Neidiodd yn ôl wrth weled Nansi, ond y foment nesaf yr oedd wedi cydio ynddi ac wedi ei llusgo allan i'r ystafell.
"Yn wir," meddai yn wawdlyd, pan welodd mai geneth ieuanc ydoedd. "Pa fusnes sydd gennych chwi yn y cwpwrdd yna?"